Mae na “risg annerbyniol” na fydd gan borthladdoedd yng Nghymru gyfleusterau priodol yn barod ar gyfer prosesau a gwiriadau tollau newydd ar ôl Brexit, rhybuddiodd y Pwyllgor Materion Cymreig.

Yn eu hadroddiad diweddaraf ddydd Gwener (Rhagfyr 11), mae Aelodau Seneddol ar bwyllgor Senedd y Deyrnas Unedig hefyd yn dweud eu bod yn pryderu am barodrwydd a gallu porthladdoedd Cymru i gynnal miloedd o wiriadau’r dydd ar nwyddau.

Disgwylir i wiriadau a phrosesau newydd gael eu rhoi ar waith o Orffennaf 1 y flwyddyn nesaf yn dilyn cyfnod o chwe mis o drefniadau masnachu newydd y Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd, os yw bargen yn cael ei tharo rhwng y ddwy ochr neu beidio.

Pryder am Gaergybi

Mae’r Adroddiad Brexit a Masnach yn peri pryder arbennig i Gaergybi – yr ail borthladd rholio/rholio-i-ffwrdd mwyaf yn y Deyrnas Unedig ar ôl Dover – lle mae’n dweud nad yw lleoliad ar gyfer cyfleuster clirio mewndirol wedi’i benderfynu eto gyda dim ond misoedd i fynd.

Mae’r porthladd yn rhannol ddibynnol ar adeiladu cyfleuster mewndirol rhag ofn y bydd oedi a achosir gan y prosesau newydd, yn ogystal â diffyg capasiti i stacio nifer sylweddol o lorïau ar y safle.

Dywed y pwyllgor bod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cynlluniau wrth gefn ar gyfer sut y cynhelir archwiliadau ar nwyddau sy’n cyrraedd y porthladd, sy’n delio â thua 450,000 o unedau cludo nwyddau bob blwyddyn.

Mae hefyd yn galw ar y Llywodraeth i gadarnhau lleoliad safleoedd tollau mewndirol erbyn diwedd y flwyddyn.

“Cymru ymhell o fod yn barod”

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bryder y pwyllgor ynghylch systemau TG newydd sydd heb eu profi, yn ogystal â chyfleusterau cyfatebol mewn porthladdoedd yn Abergwaun a Phenfro, sy’n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Stephen Crabb, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig: “Gyda dim ond pythefnos tan ddiwedd y cyfnod pontio, nid yw penderfyniadau ynghylch seilwaith allweddol yng Nghymru ar gyfer cynnal y gwiriadau hyn wedi’u gwneud eto ac mae systemau TG hanfodol eto i’w profi’n llawn ac yn weithredol.

“Er bod y Llywodraeth yn cynyddu ei hymdrechion cyfathrebu i dynnu sylw masnachwyr at y newidiadau sydd ar fin digwydd, mae gormod o fusnesau’n dal i fod yn anymwybodol o sut y gallai eu masnach â’r Undeb Ewropeaidd gael ei heffeithio.

“Mae Cymru ymhell o fod yn barod ar gyfer diwedd cyfnod pontio Brexit. Rydym yn pryderu’n benodol am oblygiadau hyn i Gaergybi, un o borthladdoedd prysuraf y Deyrnas Unedig ar gyfer masnach â’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae risgiau sylweddol o oedi ac amharu ar lif llyfn masnach drwy’r porthladd.

“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru bellach yn cydweithio ar frys ac yn canolbwyntio i wneud y penderfyniadau angenrheidiol ar leoliad cyfleusterau ar gyfer cynnal archwiliadau newydd ar nwyddau sy’n symud drwy Gaergybi, Abergwaun a Doc Penfro.

“Hyd yn oed os caiff penderfyniadau eu cwblhau’r mis hwn, a bod caniatâd cynllunio’n cael ei hwyluso, mae lefel annerbyniol o risg na fydd gan y Gogledd na’r De-orllewin gyfleusterau mewndirol priodol yn barod ar gyfer cyflwyno gwiriadau ar y ffin yn llawn ym mis Gorffennaf 2021.”