Mae Boris Johnson wedi rhybuddio bod ’na “bosibilrwydd cryf” y bydd y Deyrnas Unedig yn methu dod i gytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd ac wedi dweud wrth bobl am baratoi ar gyfer dim cytundeb ar ddiwedd cyfnod trosglwyddo Brexit.

Ond mae’r Prif Weinidog yn mynnu y bydd y rhai sy’n negodi cytundeb yn gwneud popeth yn eu gallu i ddod i gytundeb erbyn Rhagfyr 31.

Dywedodd wrth ei Gabinet nos Iau (Rhagfyr 10) i fwrw ymlaen gyda pharatoadau i adael yr UE ar delerau tebyg i’r hyn sydd gan Awstralia, sydd heb gytundeb masnach gydag Ewrop.

“Dw i’n credu bod angen i ni fod yn glir iawn, iawn fod yna bosibilrwydd cryf y byddwn ni’n cael datrysiad tebyg i’r berthynas sydd gan Awstralia gyda’r Undeb Ewropeaidd, yn hytrach na pherthynas tebyg i Ganada gyda’r UE,” meddai Boris Johnson.

Ychwanegodd y byddai’r trafodaethau yn parhau ond ei fod yn “hanfodol bod pawb nawr yn paratoi ar gyfer opsiwn Awstralia.”

“Trychinebus”

Daeth rhybudd y Prif Weinidog yn dilyn ei swper gyda llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von dêr Leyen ym Mrwsel ddydd Mercher, ar ôl i’r ddau fethu a dod i gytundeb.

Mae’r ddau arweinydd wedi cytuno y bydd penderfyniad ar ddyfodol y trafodaethau yn cael ei wneud erbyn dydd Sul.

Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi rhybuddio y byddai “dim cytundeb yn drychinebus” a bod hynny’n edrych yn “debygol iawn”.

Mae Boris Johnson wedi mynnu y bydd y Deyrnas Unedig yn gallu “ffynnu” heb gytundeb ond mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) wedi awgrymu y byddai’n arwain at golli 2% o Gynnyrch Domestig Gros – sy’n mesur maint yr economi – yn 2021. Mae arbenigwyr wedi awgrymu y gallai hynny fod tu £45biliwn.