Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cau ysgolion cynradd yn gynnar.

Ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 11), cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd pob ysgol uwchradd a choleg addysg bellach yn symud at ddosbarthiadau ar-lein o ddydd Llun (Rhagfyr 14) ymlaen.

Dywedodd y Gweinidog fod y penderfyniad yn rhan o “ymdrech genedlaethol i leihau trosglwyddiad y coronafeirws” ac yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol sy’n dangos bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn “dirywio”.

Mae undebau wedi rhoi croeso i’r cyhoeddiad hwnnw, ond gan ddweud y dylid cynnwys ysgolion cynradd hefyd.

Yng Nghaerdydd, mae’r Cyngor wedi penderfynu y bydd pob Ysgol Gynradd hefyd yn gorffen dysgu wyneb yn wyneb ddydd Mawrth (Rhagfyr 15). Fe allai awdurdodau lleol eraill hefyd wneud yr un penderfyniad.

Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod yn gobeithio y byddai cau’n gynnar yn galluogi disgyblion i aros gartref yn y cyfnod cyn y Nadolig er mwyn ceisio atal y cynnydd mewn cyfraddau heintio.

Dywed y cyngor bod ysgolion yng Nghaerdydd yn cael cymorth i gyflwyno dysgu cyfunol drwy gydol y cyfnod hwn, gyda darpariaeth ddigidol eisoes wedi’i rhoi ar waith.

Mae hyn yn cynnwys mwy na 11,500 o ddyfeisiau digidol a 2,000 o ddyfeisiau band eang 4G, y mae’r Cyngor wedi’u dosbarthu i ddisgyblion fel y gallant ddysgu ar-lein pan fydd ysgolion ar gau oherwydd y pandemig.

Achosion positif yn cynyddu’n “sylweddol”

Yn y pythefnos diwethaf ledled Caerdydd, mae niferoedd o achosion positif wedi codi’n sylweddol, gan arwain at gynnydd yn nifer y disgyblion sy’n gorfod hunanynysu.

Yn ôl y Cyngor, mae 36% o’r holl achosion yng Nghaerdydd wedi digwydd yn ystod y pythefnos diwethaf.

A rhybuddiodd fod ei ragfynegiadau’n dangos y gallai un o bob chwech o’r disgyblion orfod hunanynysu os bydd y niferoedd yn parhau i godi ar y gyfradd bresennol.

Bydd penderfyniad y Cyngor i gau ysgolion cynradd yn gynnar yn galluogi plant a theuluoedd i hunanynysu am 10 diwrnod yn y cyfnod cyn Dydd Nadolig.

Mae hyn yn unol â deddfwriaeth hunanynysu newydd Llywodraeth Cymru, felly bydd modd i  blant weld neiniau a theidiau ac aelodau o’r teulu yn ddiogel.

Bydd dod â dysgu wyneb yn wyneb i ben ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr, hefyd yn helpu i leihau nifer yr achosion mewn ysgolion yn y system Profi, Olrhain, Diogelu, meddai’r Cyngor.

Mae disgwyl i ddarpariaeth ysgolion ar gyfer disgyblion sy’n agored i niwed ac sydd angen cymorth ychwanegol barhau tan ddydd Gwener (Rhagfyr 18) ym mhob ysgol.

Mae’r Cyngor wedi galw ar rieni a theuluoedd i ddilyn canllawiau cenedlaethol y coronafeirws a sicrhau ei bod yn gweld cyn lleied o bobl â phosibl yn y cyfnod cyn y Nadolig.