Mae Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, wedi dweud y byddai’n cynnig refferendwm ar annibyniaeth i Gymru yn ei dymor cyntaf pe bai’n cael ei ethol yn brif Weinidog yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
Bydd Adam Price yn gwneud cyhoeddiad swyddogol yn fyw o Westy Dewi Sant yng Nghaerdydd heddiw.
‘Datganoli dan ymosodiad’
Mae disgwyl i Arweinydd Plaid Cymru Adam Price ddweud bod datganoli “dan ymosodiad” gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan ac mai datganoli yw’r “egwyddor ddemocrataidd fwyaf sylfaenol”.
“Mae datganoli dan ymosodiad gan y Ceidwadwyr a Boris Johnson,” meddai.
“Yn y cyfamser, mae’r galw am refferendwm annibyniaeth arall yn yr Alban yn ei anterth a gallai’r Alban fod yn wlad annibynnol erbyn 2025. Ac mae Brexit hefyd wedi rhoi hwb pellach i’r galwadau am Iwerddon unedig.
“Mae Cymru mewn perygl gwirioneddol o gael ei gadael ar ôl fel rhan o Deyrnas Unedig, mewn ffurfiant newydd o Gymru a Lloegr – sef y sefyllfa waethaf posib.
“Am y rhesymau hyn yr wyf felly’n addo heddiw y bydd Llywodraeth Plaid Cymru, pe bai’n cael mwyafrif yn y Senedd, yn cynnig refferendwm ar annibyniaeth i Gymru yn ei thymor cyntaf, yn amodol ar gymeradwyaeth y blaid.”
“Annibyniaeth yw’r syniad mwyaf radical yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw.
“Roedd y ddau bol piniwn diwethaf ar annibyniaeth yn dangos y gefnogaeth uchaf mewn hanes.
“Er bod baneri a gorymdeithiau yn tanio ein brwdfrydedd… os ydych am gael annibyniaeth, rhaid i chi bleidleisio amdano a hynny drwy bleidleisio Blaid Cymru.”
Ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol
Wrth ymateb i araith Adam Price mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud y dylai dyfodol Cymru fod o fewn y Deyrnas Unedig.
“Mae pedair blynedd diwethaf Brexit wedi dangos yn glir pa mor hanfodol yw cadw cysylltiadau agos â’n cymdogion agosaf,” meddai Cadan ap Tomos ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Mae’r un dadleuon y mae Plaid Cymru wedi’u defnyddio yn y gorffennol o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yr un mor berthnasol i barhau â’n perthynas yn y Deyrnas Unedig.
Undeb ffederal?
“Ond nid yw hynny’n golygu y dylem amddiffyn y status quo,” meddai Cadan ap Tomos.
“Nid yw’r Undeb presennol yn gweithio’n ddigon da i Gymru. Dyna pam mae’r Democratiaid Rhyddfrydol am gael undeb ffederal newydd i’n pedair gwlad – un yn seiliedig ar bartneriaeth gyfartal a pharch at ei gilydd.
“Peidiwch â chredu’r rhai sy’n ceisio paentio hyn fel dewis rhwng annibyniaeth a’r un hen drefn.
“Mae’r dyfodol gorau i Gymru o fewn Deyrnas Unedig newydd – mae angen y dewrder arnom i ymladd i sicrhau hynny.”