Mae ’na alw am eglurder heddiw (Dydd Gwener, Rhagfyr 11) yn dilyn adroddiadau bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno ail gyfnod clo byr o Ragfyr 28 ymlaen yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19.

Yn ôl y gwasanaeth radio LBC mae ’na awgrymiadau y bydd cyfres o bedair haen o gyfyngiadau yn cael eu cyflwyno, a fydd yn cael eu hadolygu bob tair wythnos. Fe fyddai’r ardaloedd sydd a’r lleiaf o risg yn haen 1 gan godi i haen 4 ar gyfer yr ardaloedd hynny sy’n peri’r risg fwyaf.

Nid oes penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud ond mae’r Cabinet wedi cwrdd i drafod y camau yma, yn ôl yr adroddiadau.

Mae’n dilyn “pwysau aruthrol” ar y Gwasanaeth Iechyd a chynnydd mewn achosion ar draws holl awdurdodau lleol Cymru.

Cau ysgolion yn gynnar

Daw’r adroddiadau ar ôl i ysgolion uwchradd a cholegau Cymru glywed ddoe (Rhagfyr 10) y byddan nhw’n dechrau dysgu ar-lein o ddydd Llun, Rhagfyr 14, fel rhan o “ymdrech genedlaethol i arafu lledaeniad y coronafeirws.”

Ar hyn o bryd mae’n ymddangos y bydd ysgolion cynradd yn parhau ar agor tan ddiwedd y tymor er bod rhai awdurdodau lleol wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n cau ac yn dysgu plant ar-lein o ddydd Llun.

“Penderfyniadau gwael”

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi galw am eglurder ynglŷn â’r adroddiadau am ail gyfnod clo byr.

Dywedodd ei fod yn “drueni” bod newyddion “mor sylweddol a fydd yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl yn cael ei ddatgelu i’r cyfryngau gan Lywodraeth Lafur Cymru.”

Ychwanegodd: “Mae Cymru’n parhau i wynebu sefyllfa ddifrifol iawn, sydd wedi cael ei waethygu gan benderfyniadau gwleidyddol gwael y weinyddiaeth Lafur yn ystod yr hydref a’r gaeaf.”

Serch hynny, meddai Andrew RT Davies, mae’r Ceidwadwyr Cymreig “yn barod i weithio gyda phob plaid er mwyn mynd i’r afael a’r argyfwng cenedlaethol yma.”