Gyda’r dydd mae Karl Phillips yn adeiladu a thrwsio toeon, ond gyda’r nos efe yw’r enwog ‘Bootlegger’, ‘Y Capten’, yfwr o fri.

Mae’r gŵr 46 oed, sy’n hanu o Wrecsam, yn rhannu fideos o’i hun ar y We yn yfed cwrw ac yn joio byw, ac mae ganddo dros 300,000 o ddilynwyr ar Twitter.

Yn deyrnged i’w enwogrwydd, mae bragdy Wrexham Lager yn gwerthu cwrw ‘Bootlegger 1974 Pilsner’ sydd â’i wep ar y botel.