Fe fydd Cymru yn wynebu Awstralia, Fiji, a dau dîm arall sydd eto i gymhwyso yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023 fydd yn cael ei chynnal yn Ffrainc.

Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het mewn digwyddiad ym Mharis fore dydd Llun, Rhagfyr 14.

Roedd Awstralia, Fiji a Chymru yn yr un grŵp yng Nghwpan y Byd 2015 a 2019.

Cymru orfennodd ar frig y grŵp y llynedd ar ôl curo Awstralia 29-25 yn Tokyo.

Gorffennodd Cymru yn bedwerydd yn y twrnament yn 2019 gan golli i’r pencampwyr De Affrica yn y rownd gynderfynol.

Fel arfer, mae’r enwau’n dod o’r het ar sail eu safleoedd ar y rhestr ddetholion ar ôl gemau’r hydref, ond mae’r sefyllfa’n wahanol eleni gan nad yw De Affrica na Japan wedi gallu chwarae yn sgil Covid-19.

Roedd timau wedi eu trefnu yn ôl y rhestr ddetholion 11 mis yn ôl – cyn ymlediad y coronafeirws.

Mae hyn wedi bod yn fanteisiol i Gymru, sydd bellach yn nawfed ar y rhestr, gan eu bod nhw’n bedwerydd ar ddechrau’r flwyddyn.

Wrth ymateb, dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac: “Mae gennym bedair gêm fawr i’w chwarae yn y grwp.”

“Yn sicr mae gen i berthynas â Fiji, ar ôl hyfforddi yno yn 2007, a gyda Dave (prif hyfforddwr Awstralia, Dave Rennie) yn Awstralia, mae’n mynd i fod yn her go iawn.

“Mae pawb yn mynd i fod yn hollol barod ar gyfer pob un gêm.”

Y grwpiau:

  • Grŵp A – Seland Newydd, Ffrainc, Yr Eidal, Americas 1, Africa 2
  • Grŵp B – De Affrica, Iwerddon, Yr Alban, Asia/Pacific 1, Ewrop 2
  • Grŵp C – Cymru, Awstralia, Fiji, Ewrop 1,  enillydd rownd derfynol ragbrofol
  • Grŵp D – Lloegr, Japan, Ariannin, Oceania 1, Americas 2