Gyda Joe Allen yn ôl yn ymarfer, Gareth Bale yn sâl a Dai Brooks ar dân, digwyddodd digon yr wythnos hon, a hynny heb sôn am y gêm ddarbi fawr yn y Bencampwriaeth.
Heb oedi ym mhellach felly, gadewch i ni gadw golwg ar y Cymry…
Uwch Gynghrair Lloegr
Chwaraeodd Tyler Roberts y chwarter awr olaf wrth i Leeds golli yn West Ham nos Wener.
Diwrnod distaw iawn a oedd dydd Sadwrn i’r Cymry, gyda Neil Taylor (Aston Villa), Hal Robson-Kanu (West Brom) a Dan James (Man U) i gyd yn absennol o garfannau eu timoedd.
Parhau y mae tymor trychinebus Sheffield United wedi iddynt golli o dair gôl i ddim yn Southampton ddydd Sul. Ni wnaeth hyd yn oed dychweliad Ethan Ampadu i’r tîm yn dilyn anaf leddfu dim ar drafferthion y Blades sydd yn sownd ar waelod y tabl gyda dim ond un pwynt o’u deuddeg gêm gyntaf.
Nid oedd Gareth Bale yng ngharfan Spurs i wynebu Crystal Palace ddydd Sul oherwydd salwch, er bod Jose Mourinho yn awyddus iawn i bwysleisio nad Covid-19 a oedd y salwch hwnnw.
Jose Mourinho comments on Gareth Bale absence today with “flu” like symptoms
— Spurs On Tap (@SpursOnTap) December 13, 2020
Ar y fainc y dechreuodd Joe Rodon a Ben Davies hefyd gyda Rodon yn aros arni a Davies yn dod i’r cae am y deg munud olaf. Yn wir, bu ond y dim i’r cefnwr chwith ei hennill hi i’w dîm wrth i’w ymdrech hwyr daro’r trawst.
Daeth Neco Williams i’r cae fel eilydd ar gyfer chwarter olaf gêm Lerpwl yn Fulham ac fe newidiodd lwc ei dîm yn ystod yr amser hwnnw. Roeddynt gôl i ddim ar ei hôl hi tan i gic o’r smotyn hwyr Mo Salah achub pwynt.
Chwaraeodd Danny Ward yn y gôl i Gaerlŷr yn erbyn AEK Athens yng Nghynghrair Europa nos Iau ond roedd yn ôl ar y fainc ar gyfer eu gêm gynghrair yn erbyn Brighton nos Sul.
Y Bencampwriaeth
Y darbi Gymreig a oedd y gêm fawr yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn, gydag Abertawe yn ennill y dydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd. O safbwynt cefnogwr Cymru hollol ddi duedd, efallai nad hwnnw a oedd y canlyniad gorau. Un Cymro a oedd yn nhîm yr Elyrch ond dechreuodd pedwar i’r Adar Gleision.
Roedd Connor Roberts yn rhan o amddiffyn yr ymwelwyr a gadwodd lechen lân yn y cefn ac yntau hefyd a greodd y gyntaf o ddwy gôl Jamal Lowe. Dwy gôl i ddim y gorffennodd hi er gwaethaf ymdrechion Will Vaulks, Mark Harris, Harry Wilson a Kieffer Moore i Gaerdydd. Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Ben Cabango a Liam Cullen i Abertawe.
Mae’r canlyniad hwnnw’n rhoi tîm Steve Cooper yn drydydd yn y tabl, bwynt yn unig y tu ôl i Bournemouth, a gafodd fuddugoliaeth swmpus yn erbyn Huddersfield.
Methodd Chris Mepham y gêm ar ôl dioddef mân anaf yn erbyn yr Elyrch ganol wythnos ond serennodd David Brooks i’r Cherries unwaith eto, yn creu un ac yn sgorio un dda iawn wrth i’w dîm ennill o bum gôl i ddim.
Roedd buddugoliaeth gyfforddus i Luton hefyd, gartref yn erbyn Preston. Chwaraeodd Tom Lockyer y 90 munud ac roedd chwarter awr oddi ar y fainc i Rhys Norrington-Davies wrth iddynt ennill o dair i ddim. Aros ar y fainc a wnaeth Joe Morrell unwaith eto ond fe wnaeth Andrew Hughes chwarae’r gêm gyfan i’r gwrthwynebwyr.
Di sgôr a oedd hi rhwng Derby a Stoke yn Pride Park ddydd Sadwrn. Dechreuodd Tom Lawrence i’r tîm cartref ond bu’n rhaid iddo adael y cae gydag anaf wedi dim ond hanner awr. Cyfrannodd James Chester a Morgan Fox at lechen lân yr ymwelwyr.
Ond y newyddion gorau o Stoke yr wythnos hon efallai a oedd y ffaith i Joe Allen chwarae gêm ymarfer ganol wythnos, ei gêm gyntaf o unrhyw fath ers iddo ddioddef anaf difrifol i wäellen ei ffêr (achilles) ym mis Mawrth. Efallai y daw cyfnod prysur yr ŵyl yn rhy fuan iddo ond tybed a welwn ni Pirlo’r Preseli yn dychwelyd i dîm y Potters yn fuan?
Eilyddion heb eu defnyddio a oedd George Thomas i QPR a Tom Bradshaw i Millwall ond fe wnaeth Alex Samuel a Joe Jacobson chwarae yng ngholled Wycombe o ddwy gôl i un gartref yn erbyn Coventry. Yn wir, yr amddiffynnwr, Jacobson, a sgoriodd gôl y tîm cartref, ei ail gic o’r smotyn mewn wythnos ar ôl iddo rwydo yn Barnsley ganol wythnos.
Cynghreiriau is
Daeth gêm fwyaf cyffrous yr Adran Gyntaf yn y Valley ddydd Sadwrn wrth i Charlton guro Wimbledon o bum gôl i ddwy. Dechreuodd Chris Gunter a chreodd Jonny Williams argraff oddi ar y fainc. Cyfunodd y ddau Gymro ar gyfer trydedd gôl y tîm cartref, Gunts yn creu a Williams yn sgorio. Roedd Joniesta yn ganolog ym mhumed gôl ei dîm hefyd, yn taro’r postyn cyn i gyd chwaraewr rwydo. Ar y fainc yr oedd Adam Matthews a Dylan Levitt.
Roedd buddugoliaethau i Doncaster a Fleetwood yn hanner uchaf y tabl hefyd, gyda Matthew Smith yn chwarae ym muddugoliaeth Donny dros Gillingham a Wes Burns a Ched Evans yn ymddangos i Fleetwood yn Swindon.
Daeth sioc y penwythnos wrth i Brennan Johnson a Lincoln, sydd yn ail yn y tabl, golli o bedair gôl i ddim yn erbyn Sunderland.
Llithro ar ôl dechrau da i’r tymor y mae Ipswich hefyd. Colli fu eu hanes yn erbyn Portsmouth ddydd Sadwrn gyda Dave Cornell yn ildio ddwywaith.
Dechreuodd Chris Maxwell a Ben Woodburn yng ngêm ddi sgôr Blackpool yn erbyn Rhydychen ac er gwaethaf ei rediad da diweddar, nid oedd gôl i Luke Jephcott wrth i Plymouth golli’n drwm yn erbyn Bristol Rovers.
Ym mhen anghywir y tabl, roedd buddugoliaeth bwysig i Wigan yn erbyn Accrington. Cododd y Latics o waelod y tabl gyda buddugoliaeth o bedair gôl i dair, y gyntaf o’r pedair yn cael ei sgorio gan y Cymro Cymraeg o Ffynnon Taf, Tom James. Ar y fainc yr oedd Lee Evans eto.
Mae Casnewydd yn aros ar frig yr ail Adran er iddynt golli yn Leyton Orient ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Brandon Cooper, Liam Sheppard, Josh Sheehan i’r Alltudion ac roedd ymddangosiad cyntaf i Aaron Lewis ers iddo ymuno ar fenthyg o Lincoln.
Yr Alban a thu hwnt
Cododd Hibs i’r ail safle yn Uwch Gynghrair yr Alban gyda buddugoliaeth swmpus dros Hamilton ddydd Sadwrn. Sgoriodd y tîm o Gaeredin bedair gôl i gyd, yr ail o’r rheiny yn beniad nodweddiadol gan Christian Doidge.
Roedd buddugoliaeth i Ash Taylor a Ryan Hedges gyda Aberdeen yn erbyn Ross County hefyd. Cadwodd Taylor lechen lân yn yr amddiffyn a Hedges a greodd ail gôl Curtis Main yn y fuddugoliaeth o ddwy i ddim.
Nid oedd hi’n ddiwrnod cystal i Owain Fôn Williams ym Mhencampwriaeth yr Alban. Ildiodd y Cymro ddwywaith wrth i’w dîm golli o ddwy i un yn erbyn Greenock Morton ac fe allai pethau fod wedi bod yn waeth pe bai’r swyddogion wedi caniatáu’r gôl isod!
Apparently this wasn’t given in the Dunfermline v Morton game today… ??♂️ pic.twitter.com/wBugSoxwoo
— Iain (@IainWATP) December 12, 2020
Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Robbie Burton i Dinamo Zagreb yn erbyn Rijeka yn Uwch Gynghrair Croatia ddydd Sul a pharhau allan o garfan Schalke y mae Rabbi Matondo yn y Bundesliga.
Roedd llygedyn o obaith i James Lawrence a St. Pauli tua gwaelodion y 2. Bundesliga wrth iddynt gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Erzgebirge ddydd Sul, gyda’r Cymro yn chwarae 90 munud yng nghanol yr amddiffyn.
Ar ôl chwarae 70 munud o fuddugoliaeth drawiadol Juventus yn erbyn Barcelona ganol wythnos, ar y fainc yr oedd Aaron Ramsey wrth i’r Hen Wreigan guro Genoa nos Sul.
Mae rhediad diweddar Rhys Healey yn parhau i Toulouse yn Ligue 2 yn Ffrainc. Mae cyn flaenwr Cei Connah a Chaerdydd bellach wedi sgorio mewn pedair gêm yn olynol ar ôl rhwydo ail o dair ei dîm yn erbyn Châteauroux ddydd Sadwrn.
Gwilym Dwyfor