Bydd tîm rygbi Cymru’n cael gwybod yfory (dydd Llun, Rhagfyr 14) pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng Nghwpan y Byd 2023.

Gyda thimau’n cael eu trefnu yn ôl y rhestr ddetholion 11 mis yn ôl – cyn ymlediad y coronafeirws – bydd Cymru ar eu hennill yn dilyn blwyddyn siomedig i dîm Wayne Pivac, gyda dim ond tair buddugoliaeth.

Fel arfer, mae’r enwau’n dod o’r het ar sail eu safleoedd ar y rhestr ddetholion ar ôl gemau’r hydref ond mae’r sefyllfa’n wahanol eleni gan nad yw De Affrica na Japan wedi gallu chwarae.

Bydd yr enwau’n cael eu tynnu o’r het yn Paris ac yn ôl World Rugby, y drefn newydd yw’r un “decaf” o dan yr amgylchiadau.

Mae Cymru bellach yn nawfed ar y rhestr, ond roedden nhw’n bedwerydd ar ddechrau’r flwyddyn, sy’n golygu y byddan nhw’n osgoi rhai o’r timau y gallen nhw fod wedi gorfod eu hwynebu yn ôl y drefn arferol – De Affrica, Seland Newydd a Lloegr.

Yn yr ail haen mae Ffrainc, Iwerddon, Awstralia a Japan ac yn y drydedd haen mae’r Alban, yr Ariannin, Ffiji a’r Eidal.

Bydd bandiau pedwar a phump yn gymysgedd o dimau sydd heb gymhwyso eto, a’r rheiny’n dod o Ewrop, Ynysoedd y De a’r Americas.

Bydd pedwar grŵp o bump yn cystadlu am y tlws, a bydd trefn y gemau’n cael ei chyhoeddi ym mis Chwefror.