Aberystwyth G-G Y Drenewydd
Gohiriwyd yn dilyn prawf positif Covid-19 yng ngharfan y Drenewydd.
*
Caernarfon 2-0 Y Barri
Cafwyd drama hwyr ar yr Oval ddydd Sadwrn wrth i Gaernarfon drechu’r Barri.
Sgoriodd y Cofis ddwywaith yn y deg munud olaf i ennill am yr eilwaith mewn pum diwrnod.
Tro ar fyd?
Gellid fod wedi maddau i unrhyw un a wyliodd Caernarfon yn cael cweir gan Ben-y-bont y penwythnos diwethaf am feddwl na fyddent yn ennill eto’r tymor hwn!
Ond cafwyd ymateb gwych gan dîm Huw Griffith yr wythnos hon wrth iddynt guro’r Derwyddon Cefn nos Fawrth cyn cael y canlyniad annisgwyl hwn yn erbyn y Barri, a chwaraeodd y rhan fwyaf o’r ail hanner gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Luke Cooper.
Eilyddio effeithiol
Roeddwn i’n euog o feirniadu Griffths yr wythnos diwethaf ond ei eilyddion ef a wnaeth y gwahaniaeth yr wythnos hon.
Rhoddodd Jack Kenny’r tîm cartref ar y blaen gyda’i gôl gyntaf dros y clwb cyn i Sam Jones ymddangos fel fflach yn y cwrt cosbi (winc winc) i ddiogelu’r tri phwynt yn y munudau olaf.
Mae’r canlyniad yn codi’r Cofis yn ôl i’r hanner uchaf
*
Derwyddon Cefn 4-1 Hwlffordd
Cododd Derwyddon Cefn o waelod y Cymru Premier gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Hwlffordd ar y Graig ddydd Sadwrn.
Ar ôl sgorio deg gôl yn unig yn eu tair gêm ar ddeg gyntaf, fe rwydodd y Derwyddon bedair mewn un prynhawn i sgubo Hwlffordd o’r neilltu.
Y goliau
Rhoddodd Cody Ruberto’r tîm cartref ar y blaen cyn yr egwyl cyn i Christoph Aziamale ddyblu’r fantais yn yr ail hanner.
Rhwydodd Charley Edge y drydedd cyn i Niall Flint ychwanegu’r bedwaredd yn y munudau olaf.
Yr unig gysur i Hwlffordd cyn troi am y daith hir yn ôl i’r de orllewin a oedd wythfed gôl y tymor i’r ymosodwr ifanc cyffrous, Jack Wilson.
Mae’r canlyniad yn codi Cefn dros y Fflint ac oddi ar waelod y tabl am y tro cyntaf ers dechrau’r tymor.
*
Pen-y-bont G-G Y Fflint
Gohiriwyd yn dilyn profion positif Covid-19 yng ngharfan y Fflint.
Amddifadodd hynny Neil Gibson o’i gêm gyntaf wrth y llyw gyda’r Fflint. Penodwyd cyn reolwr Prestatyn yr wythnos hon yn dilyn diswyddiad Niall McGuinness.
*
Y Bala 4-1 Met Caerdydd
Cadwodd y Bala’r pwysau ar y ddau uchaf gyda buddugoliaeth dros Met Caerdydd ar Faes Tegid ddydd Sadwrn.
Sgoriodd Chris Venables ei bedwaredd ar ddeg a’i bymthegfed gôl o’r tymor mewn buddugoliaeth gyfforddus i dîm Colin Caton.
Iawn Will, Met
Roedd Will Evans wedi sgorio i Met Caerdydd yn y tair gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm yma ar Gampws Cyncoed. Mae’r blaenwr mawr pen melyn bellach yn chwarae i’r Bala ond mae’r record honno o sgorio i’r tîm cartref yn parhau wedi iddo benio’r Bala ar y blaen wedi dim ond pum munud o’r gêm hon.
Dyblodd Antony Kay y fantais wedi hynny gyda tharan o foli o… ddwy lath! Ac roedd hi’n dair toc cyn yr egwyl, pas wrthol Henry Jones a Chris Venables yn gorffen yn effeithiol.
Route one
Tynnodd Eliot Evans un yn ôl i’r Myfyrwyr yn gynnar yn yr ail gyfnod ond nid oedd unrhyw amheuaeth am y canlyniad yn dilyn ail Venables a phedwaredd y Bala hanner ffordd trwy’r ail hanner.
Hyd y gwn i does dim term Cymraeg am route one ond roedd y gôl hon yn enghraifft berffaith o’r dacteg; cic hir uniongyrchol y gôl-geidwad, Alex Ramsay, a pheniad Venables, dau gyffyrddiad yn unig o un pen o’r cae i’r llall.
Chris Venables yn sgorio ei ail o’r prynhawn wrth i’r Bala guro Met Caerdydd 4-1.
Cic hir uniongyrchol gan y golwr, Alex Ramsay yn canfod yr ymosodwr, Chris Venables. #JDCymruPremier pic.twitter.com/KJwBVsmYvm
— ⚽ Sgorio (@sgorio) December 12, 2020
Mae’r Bala yn aros yn drydydd er gwaethaf y fuddugoliaeth ond tri phwynt yn unig sydd yn gwahanu’r tri uchaf bellach wrth iddi ddechrau siapio’n dymor cofiadwy.
*
Cei Connah 2-0 Y Seintiau Newydd
Caeodd Cei Connah’r bwlch ar y brig gyda buddugoliaeth dda yn erbyn y Seintiau Newydd yng ngêm fyw Sgorio nos Sadwrn.
Roedd y pencampwyr yn llwyr haeddu’r fuddugoliaeth wrth i dîm Andy Morrison reoli rhannau helaeth o’r gêm.
Llaw wyllt Duw
Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i fynd ar y blaen mewn hanner cyntaf di-sgôr. Gwnaeth Oliver Byrne arbediadau da i atal Dean Ebbe, Leo Smith a Louis Robles rhag agor y sgorio i’r Seintiau.
Yn y pen arall, fe lawiodd Mike Wilde y bêl i gefn y rhwyd ond roedd y dyfarnwr, Iwan Griffith, yn ddigon craff i sylwi ar deyrnged y blaenwr i’r diweddar Diego Maradona a ni chafodd y gôl ei chaniatáu!
“Does na’m sentiment mewn ffwtbol”
Os oedd yr hanner cyntaf yn agos, nid felly’r ail wrth i’r Nomadiaid lwyr reoli gyda chyn chwaraewyr y Seintiau’n creu hafoc.
Peniodd Aeron Edwards y tîm cartref ar y blaen o groesiad Aron Williams ac oes oedd unrhyw un yn disgwyl iddo beidio â dathlu yn erbyn y tîm y chwaraeodd iddynt am dros ddeg mlynedd cyn ymuno â’r Nomadiaid dros yr haf, dim o’r fath beth!
AERON EDWARDS! ⚽
Cei Connah ar y blaen! The Nomads take the lead – BIG GOAL!
57' @the_nomads 1-0 Y Seintiau Newydd#JDCymruPremier pic.twitter.com/y7CcApv3Ly
— ⚽ Sgorio (@sgorio) December 12, 2020
Tebyg iawn a oedd y gôl a setlodd bethau toc wedi’r awr, Williams yn creu ar y dde unwaith eto a chyn Sant arall yn penio yn y canol. Wilde y tro hwn yn erbyn ei gyn gyflogwyr, er mai gôl i’w rwyd ei hun gan Paul Harrison fydd hi yn swyddogol wedi iddi groesi’r llinell gyda chymorth gwyriad oddi ar gefn y gôl-geidwad.
Agos ar y brig
Mae’r canlyniad yn gwneud pethau’n agos ar y brig. Mae’r Seintiau’n aros yn gyntaf ond gwahaniaeth goliau’n unig sydd yn eu gwahanu hwy a Chei Connah bellach. Heb anghofio’r Bala, sydd dri phwynt yn unig y tu ôl yn y trydydd safle.
Gwilym Dwyfor