Mae disgwyl i reolwr tîm merched Cymru, Jayne Ludlow, gael ei henwi’n rheolwr newydd tîm merched West Ham.
Bydd hyn yn ergyd fawr i Gymru – mae Ludlow wedi bod yn gyfrifol am y tîm cenedlaethol ers 2014, ac yn ddiweddar fe gollodd Cymru allan ar le yng nghystadleuaeth bêl-droed Ewro 2022 o drwch blewyn.
Mae’r swydd wedi bod yn wag ers i Matt Beard gytuno i adael ei rôl fel rheolwr West Ham fis Tachwedd.
Mae West Ham yn ddegfed yn nhabl Cynghrair Merched Lloegr ar ôl ennill dim ond dwy o’u naw gêm ddiwethaf.