Mae cyn-reolwr Lerpwl, Gerard Houllier, wedi marw yn 73 oed.
Enillodd y Ffrancwr, a reolodd Aston Villa yn ddiweddarach yn ei yrfa, Gwpan yr FA, Cwpan y Gynghrair a Chwpan UEFA gyda Lerpwl yn 2001, uchafbwynt ei chwe blynedd wrth y llyw.
Treuliodd gyfnodau yn rheoli Paris St Germain, Lyon a thîm cenedlaethol Ffrainc yn ystod ei yrfa hefyd.
“Rydym yn galaru marwolaeth ein rheolwr wnaeth ennill y trebl, Gerard Houllier,” meddai’r clwb ar Trydar.
“Mae meddyliau pawb yng Nghlwb Pêl-droed Lerpwl gyda theulu Gerard a’i ffrindiau. Cwsg mewn hedd, Gerard Houllier 1947-2020.”
We are mourning the passing of our treble-winning manager, Gerard Houllier.
The thoughts of everyone at Liverpool Football Club are with Gerard’s family and many friends.
Rest in peace, Gerard Houllier 1947-2020. pic.twitter.com/isHGXIfe5E
— Liverpool FC (@LFC) December 14, 2020
Dywedodd Clwb Pêl-droed Aston Villa: “Mae pawb yn Aston Villa yn drist iawn o glywed am farwolaeth Gérard Houllier, ein rheolwr yn ystod tymor 2010/11.
“Mae ein meddyliau gydag anwyliaid Gérard ar yr adeg hynod anodd hon.”
Adroddwyd am farwolaeth Houllier gyntaf gan gyfryngau Ffrainc, a ddywedodd ei fod wedi cael llawdriniaeth ar y galon yn ddiweddar – ar ôl dioddef cymhlethdodau’r galon ers sawl blwyddyn.
Ym mis Hydref 2001, disgynnodd yn sâl ar hanner amser yn ystod gêm Lerpwl yn erbyn Leeds a chafodd ddiagnosis o aortic dissection a bu’n rhaid iddo dderbyn llawdriniaeth frys, gan arwain at ei absenoldeb am bum mis.
Ond cafwyd llwyddiant pellach wrth i Lerpwl godi Cwpan y Gynghrair yn 2003.
Gwelodd methiant i gymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr Houllier yn cael ei ddisodli gan Rafael Benitez yn 2004, ond aeth ymlaen i fwynhau llwyddiant pellach gyda Lyon.
Dioddefodd Houllier broblemau iechyd pellach tra gyda Aston Villa. Cafodd ei gludo i’r ysbyty ar Ebrill 20 2011 ar ôl mynd yn sâl, ac ni fyddai’n dychwelyd i’r gwaith cyn camu i lawr ar Fehefin 1.
Hwn oedd ei swydd olaf ym maes rheoli o ddydd i ddydd.
Cafodd Houllier lawer i lwyddiant yn ystod ei yrfa, gan gynnwys teitl Adran 1 Ffrainc gyda PSG yn 1986 Ligue 1 gyda Lyon yn 2006 a 2007.
Cyn chwaraewyr Lerpwl yn talu teyrnged
Disgrifiodd Michael Owen ef fel “dyn gwirioneddol ofalgar”, tra bod Ian Rush yn ei alw’n “ŵr bonheddig iawn”.
Ysgrifennodd cyn gapten Lerpwl, Steven Gerrard, ar Instagram: “Ni fyddaf byth yn anghofio’r hyn a wnaeth y dyn hwn i mi a’m gyrfa. Cwsg mewn hedd bos ❤️ YNWA x”
Ac mae Jamie Carragher wedi talu teyrnged iddo ar Trydar.
Absolutely devastated by the news about Gerard Houllier, I was in touch with him only last month to arrange him coming to Liverpool. Loved that man to bits, he changed me as a person & as a player & got @LFC back winning trophies. RIP Boss. ?
— Jamie Carragher (@Carra23) December 14, 2020
Dywedodd llywydd ffederasiwn pêl-droed Ffrainc, Noel Le Graet: “Gydag emosiwn mawr a thristwch dwfn y dysgais am farwolaeth Gerard Houllier.
“Mae pêl-droed Ffrainc yn colli un o’i dechnegwyr mwyaf, a ffederasiwn Ffrainc un o’i weision mwyaf ffyddlon. Mae Gerard Houllier wedi profi ei hun ar bob lefel o bêl-droed.
“Yn y byd amatur fel chwaraewr ac yna fel hyfforddwr, yn y byd proffesiynol fel hyfforddwr clybiau enwog, yn y ffederasiwn fel cyfarwyddwr technegol cenedlaethol a hyfforddwr tîm Ffrainc.
“Y tu hwnt i’w rinweddau technegol a gydnabyddir yn unfrydol, roedd Gerard Houllier yn athro gwych, yn agored ei feddwl, yn gynnes, yn ddynol iawn.
“Mae pêl-droed Ffrainc yn ddyledus iawn iddo. Ar ran y ffederasiwn, rwy’n anfon ein meddyliau a’n cydymdeimlad o’r galon at ei deulu a’i anwyliaid.”