Mae Comisiwn Ffiniau Cymru’n dweud y bydd yn cynnal adolygiad o etholaethau seneddol eleni.

Mae pryderon y gallai newid ffiniau etholaethau gwledydd Prydain arwain at wyth yn llai o aelodau seneddol i Gymru.

Bydd rhaid bod gan bob etholaeth boblogaeth rhwng 69,724 a 77,062.

Mae gan Gymru 40 aelod seneddol ar hyn o bryd, ond fe allai’r nifer ostwng i 32 erbyn Etholiad Cyffredinol 2024 o ganlyniad i’r terfyn boblogaeth.

Yn ôl y gyfraith, bydd yn rhaid i’r Comisiwn seilio’i argymhellion ar nifer yr etholwyr sydd ar y gofrestr etholiadol heddiw (Ionawr 5, 2021).

Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi cyfres o gynigion ar gyfer etholaethau Cymru cyn cychwyn ar gyfnod ymgynghori.