Mae system ar-lein wedi’i rhoi ar waith yn Sir Gaerfyrddin er mwyn cefnogi’r broses Profi, Olrhain a Diogelu.

Bellach, gall pobol sydd wedi cael prawf positif am Covid-19 ddewis rhoi eu manylion ar ffurf e-ffurflen sy’n cael ei hanfon drwy neges destun.

Y gobaith yw y bydd y system newydd yn darparu hyd yn oed mwy o opsiynau wrth helpu i olrhain y feirws, lleihau’r ymlediad, a rhoi diogelwch ychwanegol i gymunedau.

Bydd llythyrau hefyd yn cael eu hanfon at bobol sydd wedi cael prawf positif pan nad yw’n bosib cysylltu â nhw dros y ffôn neu drwy neges destun.

Y system

Mae’r system Profi, Olrhain a Diogelu yn gweithio drwy:

  • Brofi pobol sydd â symptomau o’r coronafeirws, gan ofyn iddyn nhw hunanynysu wrth iddyn nhw aros i gael y prawf ac wrth aros am y canlyniad.
  • Olrhain y bobol hynny sydd wedi bod mewn cyswllt agos â’r person sy’n arddangos symptomau / sydd wedi cael prawf, gan ofyn iddyn nhw fod yn rhagofalus drwy hunanynysu.
  • Rhoi cyngor ac arweiniad, yn enwedig os yw’r person sydd â symptomau neu eu cysylltiadau yn y grŵp sy’n wynebu’r risg uchaf.
  • Sicrhau, os nad Covid-19 sy’n achosi’r symptomau, fod y person sydd â’r symptomau a’u cysylltiadau yn gallu mynd yn ôl i’w trefn arferol cyn gynted â phosib.

“Mae hyn o fudd ychwanegol i sicrhau bod y rhai sydd wedi cael prawf positif yn cael y cyngor a’r arweiniad cywir,” meddai’r Cynghorydd Philip Hughes, sy’n aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor ac sydd â chyfrifoldeb am ddiogelu’r cyhoedd.

“Yn anffodus, mae sgamwyr yn targedu pobol sy’n agored i niwed drwy gydol y pandemig felly byddwn yn cynghori pawb i fod yn ofalus wrth agor unrhyw negeseuon testun neu negeseuon e-bost.

“Bydd y negeseuon testun yn dod oddi wrth NHSWALWALESTTP ac ni fyddent yn gofyn i chi am unrhyw fanylion ariannol.”