Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu cyhoeddiad Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, y bydd Cymru’n derbyn £227m fel rhan o becyn i gefnogi busnesau trwy’r gwanwyn yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.

Bydd busnesau mannwerthu, lletygarwch a hamdden yn cael hawlio hyd at £9,000 yn ôl y Trysorlys.

Yn ôl Russell George, llefarydd economi a busnes y Ceidwadwyr Cymreig, mae’n hanfodol fod yr arian yn mynd yn gyflym i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

“Nid cyfnodau clo pellach yw’r flwyddyn newydd yr oedd pobol ei heisiau, ond mae’n hanfodol fod yr holl fesurau’n cael eu cymryd i atal ymlediad y feirws – yn enwedig yr amrywiolyn newydd hwn – ond rhaid lleddfu effaith ddinistriol y cyfnodau clo hyn ar ein heconomïau drwy fesurau fel y rhai mae Rishi Sunak wedi eu cyflwyno dros y bron i 10 mis diwethaf,” meddai.

“Dyna pam ein bod ni’n croesawu’r £227m ychwanegol hwn, ond rydym hefyd yn ei gwneud hi’n glir mae mater i Lywodraeth Lafur Cymru yw sicrhau bod yr arian hwn gan Drysorlys EM ar gael ac yn hygyrch i fusnesau ar unwaith.

“Mae nifer o fusnesau bellach ar eu gliniau, ac fe fydd yr oedi arferol gan Lywodraeth Cymru, fel y gwelsom cyn y Nadolig, wrth wneud arian ar gael yn gyrru busnesau a phobol ymhellach i mewn i’r ddaear.”

Fodd bynnag, mae dadlau ynghylch y swm, gan ei fod bellach wedi dod yn glir nad yw’n arian ‘ychwanegol’ ond yn rhan o’r £5.2 biliwn sydd eisoes wedi’i roi i Lywodraeth Cymru i ddelio â’r pandemig.