Mae cwmni Marston’s wedi dod i gytundeb i redeg 156 o dafarndai Brains, gan arbed oddeutu 1,300 o swyddi.

Mae’r teulu Brain yn berchen ar fragdy mwyaf Cymru ers ei sefydlu yn 1882.

O ganlyniad i heriau Covid-19, a chyfyngiadau masnachu llymach a gafodd eu cyhoeddi’n ddiweddar yng Nghymru, mae Brains wedi bod o dan bwysau ariannol sylweddol.

Fodd bynnag, roedd adroddiadau cyn y pandemig fod y cwmni am werthu oddeutu 40 o dafarndai i dalu dyledion, ac i ymdopi ag ansicrwydd economaidd Brexit.

Dechreuodd bragdy Brains broses ymgynghori er mwyn dod o hyd i fuddsoddwr neu werthu’r cwmni ddechrau mis Rhagfyr.

‘Sicrhau dyfodol tafarndai Brains’

“Mae’r cytundeb hwn yn ffurfio perthynas strategol barhaol â Marston’s sy’n sicrhau dyfodol tafarndai Brains a 1,300 o’n gweithwyr,” meddai John Rhys, cadeirydd Brains.

“Rydym yn gwybod ac yn ymddiried yn Marston i warchod ein tafarndai ac, er nad yw hwn yn benderfyniad hawdd, rydym yn hyderus y bydd ein tafarndai yn ffynnu o ganlyniad i hyn.

“Mae’r cytundeb yn galluogi Brains i barhau â’i dreftadaeth annibynnol, gan gadw’r busnes Cymreig gwych hwn am genedlaethau i ddod.

“Rydym yn diolch i’n holl randdeiliaid a’n cynghorwyr, Evercore, am eu cefnogaeth sydd wedi ein galluogi i gyflawni’r cytundeb hwn yn y cyfnod digynsail hwn.”

Ychwanegodd Ralph Findlay, prif weithredwr Marston, fod y cytundeb yn rhan o strategaeth hirdymor cwmni Marston i ehangu presenoldeb y cwmni yn ne a gorllewin Cymru.

“Edrychwn ymlaen at weld timau’r tafarndai yn ymuno â ni ac at groesawu gwesteion a’r cymunedau y maen nhw yn eu gwasanaethu yn ôl i’r tafarndai hyn wrth i’r wlad ddod allan o’r pandemig dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod,” meddai.