Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, dan y lach am dorri rheolau’r coronafeirws mewn angladd.
Tynnodd hi ei mwgwd er mwyn siarad â phobol o bell wrth i bobol ddod ynghyd ar ôl gwasanaeth un o weision sifil y wlad.
Fe wnaeth y Scottish Sun gyhoeddi llun ohoni’n siarad â thair dynes arall wrth y bar.
Yn ôl rheolau’r Alban, rhaid i bobol mewn lleoliadau lletygarwch wisgo mwgwd oni bai eu bod nhw’n eistedd wrth fwrdd.
Dywedodd iddi wneud “camgymeriad ffôl” wrth ymddiheuro.
Dywedodd nad oedd hi am gynnig “unrhyw esgusodion” a’i bod hi’n “cicio” ei hun.
‘Dylai’r prif weinidog wybod yn well’
Yn ôl Ceidwadwyr yr Alban, “dylai’r prif weinidog wybod yn well”.
“Wrth anghofio’r rheolau a methu â gosod esiampl briodol, mae hi’n tanseilio negeseuon iechyd cyhoeddus hanfodol,” meddai llefarydd.
“Mae’n gamgymeriad na fyddai aelod cyffredin o’r cyhoedd yn cael ei wneud.
“All Nicola Sturgeon ddim dilyn un rheol a bod rheol arall i bawb arall.”
Gall unrhyw un sy’n torri’r rheolau gael dirwy o £60.