Mae Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, yn awgrymu na fydd yn llofnodi mesur sydd wedi’i gytuno gan y Gyngres i roi arian i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws.

Mae swm o $900bn wedi’i gytuno, ond mae’r arlywydd yn dadlau y dylid cynnig mwy o arian ac mae’n bygwth peidio â llofnodi’r mesur oni bai bod y swm yn codi.

Fe fu’n cwyno mewn fideo ar Twitter fod gormod o arian yn mynd dramor ac nad oes digon i drigolion yr Unol Daleithiau.

Mae’r mesur yn cynnig oddeutu $600 i’r rhan fwyaf o Americanwyr, ond mae’n gofyn am gael codi’r swm i $2,000 neu $4,000 i gyplau.

Mae’r pecyn cymorth yn rhan o gyfaddawd sy’n cynnwys 1.4 triliwn o ddoleri i gefnogi asiantaethau’r llywodraeth hyd at fis Medi, a blaenoriaethau eraill fel cynnydd mewn budd-dal trethi bwyd a chynnig brechlynnau coronafeirws i wledydd eraill.

Cafodd y mesur ei dderbyn yn gyflym iawn ddechrau’r flwyddyn er mwyn cau pen y mwdwl ar fusnes y flwyddyn bresennol.

Er i wleidyddion gwyno bod cyn lleied o amser i ddarllen y mesur, fe wnaethon nhw ei dderbyn wrth i fusnesau ac unigolion lleol geisio cymorth yn sgil y pandemig.

Cafodd y pecyn ei dderbyn o 92 o bleidleisiau i chwech mewn ail bleidlais, gyda’r bleidlais gyntaf yn pasio’r pecyn o 359 i 53.