Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am lifogydd yn y de a’r canolbarth dros gyfnod y Nadolig.

Mae rhybudd melyn mewn grym hyd at fore Noswyl Nadolig.

Daeth y rhybudd i rym am 6 o’r gloch fore heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 23), ac fe fydd mewn grym tan yr un amser bore fory (dydd Iau, Rhagfyr 24), ar ôl i 50-70mm o law gwympo yn rhannau dwyreiniol y wlad.

Bydd hi’n brafiach erbyn amser cinio ar Noswyl Nadolig, tra bydd Dydd Nadolig yn sych ond yn oer.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynghori pobol i fod yn wyliadwrus.

Rhybuddion

Roedd nifer o rybuddion mewn grym yn y de dros y penwythnos.

Bu’n rhaid i’r gwasanaethau brys helpu gyrrwr fan oedd wedi mynd i drafferthion ym Mhontnewydd ar Wysg.

Yn Sir Gaerfyrddin, cwympodd cyfanswm o 98mm o law dros gyfnod o 24 awr yn Llyn-y-Fan Blaenau.