Mae’n debyg y bydd 16 aelod newydd Tŷ’r Arglwyddi, sydd wedi eu dewis gan Boris Johnson, yn hawlio bron i hanner miliwn o bunnnoedd mewn arian trethdalwyr bob blwyddyn, yn ôl y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.
Bydd yr Arglwyddi newydd, sydd heb gael eu hethol, yn gallu hawlio arian a chostau heb dreth arno am weddill eu bywydau.
Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar faint wnaeth y 579 arglwydd sy’n rhan o Dŷ’r Arglwyddi hawlio ar gyfartaledd y llynedd.
Ar gyfartaledd, fe wnaeth yr Arglwyddi hawlio £30,687 y pen yn 2019-20.
Mae’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol wedi amcangyfrif y gallai’r arglwyddi newydd hawlio hyd at £728,688 mewn arian trethdalwyr bob blwyddyn pan ddaw’r cyfarfodydd rhithiol i ben, a phetaen nhw i gyd yn mynychu Tŷ’r Arglwyddi bob diwrnod.
“Digon yw digon”
“Fel yr ail gorff deddfwriaethol mwyaf yn y byd, mae’r cynnydd yn nifer yr Arglwyddi yn golygu cost enfawr i drethdalwyr ac i ddemocratiaeth,” meddai Dr Jess Garland, prif weithredwr polisi ac ymchwil y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.
“Mae’n amser symud at dŷ llai, gydag aelodau sydd wedi eu hethol yn deg.
“Tra bod nifer o’r Arglwyddi yn gweithio’n galed, efallai y byddai pleidleiswyr yn teimlo’n hapusach i’w talu nhw petaent yn cael yr hawl i benderfynu pwy sy’n eistedd yno.
“Mae’n gwbl annerbyniol mewn democratiaeth bod y bobol sy’n ariannu pleidiau gwleidyddol yn cael gwneud penderfyniadau ar ein cyfreithiau,” pwysleisiodd Dr Jess Garland.
“Mae’r cyhoeddiad yma yn cael gwared ar unrhyw amheuaeth bod Tŷ’r Arglwyddi yn siambr annibynnol.
“Mae Tŷ’r Arglwyddi yn ddylanwad sy’n llygru San Steffan, a ni all Prif Weinidogion helpu eu hunain. Digon yw digon.”
Apwyntiadau “annemocrataidd”
Yn ei sylwadau am gyhoeddiad Boris Johnson i benodi 16 arglwydd newydd, dywedodd Willie Sullivan, uwch-gyfarwyddwr y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol, fod y penodiadau yn “annemocrataidd”.
“Roedd Tŷ’r Arglwyddi yn llawn i’r top yn barod, ond mae’r penodiadau newydd hyn gan y Prif Weinidog yn mynd â’r nifer dros 830,” meddai.
“Mae dros 800 o aelodau sydd heb eu hethol yn pleidleisio ar benderfyniadau sy’n effeithio ni gyd, a does dim ffordd i bleidleiswyr gael gwared arnyn nhw.
“Mae’r ffaith i’r Prif Weinidog anwybyddu barn y comisiwn penodiadau annibynnol, a mynd yn ei flaen i benodi’r gŵr sy’n ariannu’r blaid [Geidwadol] yn arwydd arall bod diffygion yn y system.
“Mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth yn isel iawn, ac nid oes rhyfedd ag ystyried bod modd i roddwyr pleidiau fod yn rhan o ein hail siambr – heb unrhyw derfyn ar y nifer – fel y mae’n siwtio’r Prif Weinidog.
“Eithriadol o beryg i ddemocratiaeth”
“Mae hyn yn eithriadol o beryg i ddemocratiaeth, ac mae’n rhaid gweithredu nawr i gyflwyno rhywfaint o atebolrwydd i Dŷ’r Arglwyddi,” mynna Willie Sullivan.
“Mae pleidleiswyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol eisiau gweld newid mawr i Dŷ’r Arglwyddi. Mae’r trefniant presennol yn niweidiol i’n gwleidyddiaeth.
“Mae’n rhaid i Arglwyddi ac Aelodau Seneddol ddod at ei gilydd i gynllunio pecyn er mwyn diwygio Tŷ’r Arglwyddi, pan fydd y Senedd yn dychwelyd.”
Dangosa holiadur gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol, a gafodd ei gynnal fis Medi eleni, fod 71% o blaid creu newid i Dŷ’r Arglwyddi, 43% o blaid cael rhai neu’r holl aelodau yn rhai wedi eu hethol, a 28% o blaid cael gwared ar y Tŷ yn gyfan gwbl.