Mae Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, yn dweud nad oes “dim sicrwydd o gwbl” y bydd modd cynnal y brifwyl yn 2021.

Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol i fod i gael ei chynnal yn Nhregaron eleni, ond bu’n rhaid ei gohirio oherwydd y coronafeirws.

“Does dim sicrwydd o gwbl, ’dan ni mewn trafodaethau cyson gyda’r llywodraeth,” meddai wrth raglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru.

Daw hyn wedi i Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, ddweud wrth golwg360 yn gynharach eleni fod pryder na fydd modd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf.

Dewis yn y flwyddyn newydd

Mae disgwyl i’r Eisteddfod Genedlaethol wneud penderfyniad erbyn diwedd mis Ionawr.

“Mae’n rhaid penderfynu yn y flwyddyn newydd o ran a fydd Eisteddfod arferol,” meddai Betsan Moses.

“Mae ganddon ni opsiynau eraill dros ben ac wrth gwrs, mi fydd na fodd eu gwireddu nhw ond o ran tegwch i’r cyflenwyr, mi fydd yn rhaid gwneud penderfyniad yn y flwyddyn newydd, a hefyd o ran ymarferoldeb paratoi gŵyl o’r maint yma, mi fydd angen chwe mis o leiaf ar gyfer gwireddu.

“Mae’n rhaid i ni gofio fod nifer fawr o bobol yn dibynnu ar yr Eisteddfod ar gyfer eu gwaith nhw, pobol lawrydd, hefyd artistiaid a bob dim, mae ’na filoedd yn cymryd rhan, ond hefyd o ran y celfyddydau ar lawr gwlad achos mae pobol yn cychwyn paratoi ym mis Ionawr ar gyfer cystadlu a bob dim.”

Mae’r Urdd eisoes wedi cyhoeddi y bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei gohirio am flwyddyn arall.

Bygythiad covid yn parhau

Fis Mai, dywedodd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, wrth golwg360 ei bod hi’n pryderu na fydd modd cynnal digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol tan fod bygythiad y coronafeirws wedi lleihau.

“Dwi’n ofni na fydd digwyddiadau o raddfa fawr yn cael eu cynnal hyd nes bydd y bygythiad yma o gael ail don, a hyd yn oed trydydd ton, wedi cael eu lleddfu,” meddai bryd hynny.

Ychwanegodd fod sefyllfa Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2021 “yn y gwynt”.

Darllen mwy: