Daeth cyhoeddiad heddiw (dydd Llun, Mawrth 30) y bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei gohirio hyd nes 2021.
Roedd disgwyl i’r ŵyl gael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst.
Y bwriad yw symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2022 a chynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yn 2023.
Mae Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd wedi’i gohirio hefyd.
“Gohirio nid canslo”
Meddai Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli, Ashok Ahir: “Yn naturiol, fe fydd ein cefnogwyr yn siomedig, ond rwy’n sicr y bydd pawb yn cytuno mai dyma’r penderfyniad cywir a synhwyrol i’r Bwrdd Rheoli’i gymryd.
“Mae’n bwysig nodi mai gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion rydym yn ei wneud, ac nid ei chanslo.”
“Anodd”
“Mae’r misoedd nesaf yn mynd i fod yn anodd i’r Eisteddfod, ac fe fyddwn yn ddibynnol ar ewyllys da ein cefnogwyr a’n ffrindiau’n fwy nag erioed,” meddai Betsan Moses, y Prif Weithredwr.
“Rydym yn benderfynol o barhau i weithio er budd y Gymraeg a diwylliant Cymru, ac yn mawr obeithio y bydd modd ail-gychwyn ar y gwaith cymunedol yng Ngheredigion ac ar draws Llŷn, Eifionydd ac Arfon cyn gynted â phosibl.
“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gychwyn y gwaith ar lawr gwlad ar hyd Rhondda Cynon Taf yn fuan, ac yn ddiolchgar iawn i’n holl wirfoddolwyr ymhobman am eu gwaith dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf.
“Yn y cyfamser, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cefnogi ein gilydd a’n cymunedau ar draws y wlad a chadw’n ddiogel ar hyn o bryd. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Dregaron yn haf 2021, gyda gŵyl a rhaglen arbennig iawn.”