Mae tri phlismon wedi’u saethu’n farw yng nghanolbarth Ffrainc.

Roedden nhw’n ymateb i ddigwyddiad honedig o drais yn y cartref mewn pentref yn rhanbarth Puy-de-Dome.

Cafodd pedwerydd plismon ei anafu, a chafwyd hyd i’r saethwr honedig yn farw yn dilyn y digwyddiad.

Dywed Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, fod y plismyn yn “arwyr” a bod y wlad yn galaru.