Fe fu gwrthdaro rhwng gyrwyr lorïau a’r heddlu ym mhorthladd Dover wrth i’r oedi i deithwyr ger y ffin barhau fore heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 23).

Mae deunydd fideo’n dangos plismyn yn ceisio gwthio pobol yn ôl.

Daw hyn ar ôl i Robert Jenrick, Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan, rybuddio y gallai gymryd rhai diwrnodau i alluogi oddeutu 4,000 o lorïau i fynd drwy’r porthladd er mwyn croesi’r Sianel.

Mae Ffrainc wedi llacio’r gwaharddiad teithio erbyn hyn ar yr amod fod y sawl sy’n croesi wedi cael prawf coronafeirws negyddol.

Bydd gyrwyr yn cael eu profi yn y porthladd, a’r disgwyl yw fod canlyniadau am fod ar gael o fewn hanner awr, ac wedyn byddan nhw’n cael prawf PCR os daw’r cyntaf yn ôl yn bositif.

Bydd y rhai sy’n cael ail brawf positif yn cael cynnig llety dros dro.

Y darogan yw fod hyd at 10,000 o lorïau yn Dover a’r cyffiniau erbyn hyn.

Mae Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, wedi codi’r uchafswm oriau gyrru mewn diwrnod i 11 o naw er mwyn helpu gyrwyr drwy’r cyfyngiadau.