Mae disgwyl i frechlyn coronafeirws AstraZeneca Rhydychen gael sêl bendith yn fuan ar ôl y Nadolig.
Bydd yn rhaid cael sêl bendith awdurdod MHRA cyn y bydd modd dechrau brechu pobol ar raddfa eang.
Mae brechlyn Pfizer eisoes yn cael ei roi i bobol.
Daw’r newyddion wrth i Tony Blair, cyn-brif weinidog Llafur Prydain, alw am newid y polisi brechu a chanolbwyntio ar roi un dos unigol i bobol, a mwy o hyblygrwydd wrth flaenoriaethu pwy sy’n ei dderbyn.
Byddai brechlyn AstraZeneca yn haws i’w gludo na brechlyn Pfizer, sy’n cael ei storio dan amodau arbennig.
Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi archebu 100m dos o frechlyn AstraZeneca, a’r disgwyl yw y bydd 40m ar gael erbyn diwedd mis Mawrth.
Ymateb
Dywedodd Syr John Bell o Brifysgol Rhydychen wrth Radio 4 heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 23) ei fod yn disgwyl sêl bendith yr MHRA “yn eithaf buan”.
“Fe gawson nhw’r data sbel yn ôl ond y set cyntaf o ddata oedd hynny,” meddai.
“Maen nhw’n derbyn sawl set o ddata.
“Felly rydyn ni wedi cyrraedd yr adeg briodol nawr, a byddwn i’n disgwyl newyddion yn eithaf buan.
“Mae’n annhebygol y byddwn ni’n cyrraedd cyn y Nadolig nawr, ond mi fyddwn i’n ei ddisgwyl yn fuan wedi’r Nadolig.
“Does gen i ddim pryderon o gwbl gan fod y data’n edrych yn well nag erioed.”