Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod, arolygu, a chyrraedd targedau ar gyfer brechu pobol.

Dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod rhaid i Lywodraeth Cymru osod targed ar gyfer brechu pobol – a chadw atynt.

Daw hyn cyn i’r ffigurau diweddaraf sy’n dangos faint o bobol sydd wedi cael eu brechu yng Nghymru gael eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Ionawr 7), ac mae Andrew RT Davies yn dweud fod cyhoeddi’r ffigurau hynny yn hanfodol.

“Cynnig cysur”

“Rydym wedi cael misoedd ar fisoedd o ystadegau llwm sy’n manylu ar faint o bobol sydd wedi cael eu heintio, a faint o bobol sydd wedi marw yn sgil y feirws, ac mae’n amser cynnig ychydig o gysur yma yng Nghymru,” meddai.

“Felly, rydw i’n galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i gyhoeddi targedau ar gyfer y rhaglen frechu, cyfri dyddiol o’r nifer sydd wedi cael eu brechu, a chyfri dyddiol yn dangos y niferoedd sydd wedi cael eu rhyddhau o ysbytai ac yn gwella o Covid-19.

“Mae targedau yn golygu eich bod yn anelu tuag at rywbeth, oherwydd mae dweud eich bod eisiau brechu 3.15 miliwn o bobol yng Nghymru yn rhy annelwig.

“Beth am gael targedu brechu dyddiol ac ystadegau i weld sut mae’r rheiny yn cael eu cyflawni, eu methu, neu – ac rwy’n bod yn optimistaidd nawr – eu curo,” meddai.

Galw am benodi Gweinidog Brechu

“P’un a ydych chi’n un o staff anhygoel ein GIG sy’n gweithio ar y rheng flaen yn dosbarthu’r brechlyn, yn berson bregus sy’n gorfod aros adre, neu’n ddisgybl ysgol sy’n awyddus i fynd yn ôl i’r ystafell ddosbarth, bydd targedau a chanlyniadau yn dangos i chi pa mor agos ydym ni i gael y gorau ar y feirws.

“Ac os nad ydym yn cyrraedd y targedau, yna mae hyn yn rhoi ffeithiau i bobol am sut mae’r weinyddiaeth yma yn eu gadael nhw lawr.”

Dywedodd Andrew RT Davies fod targedau tebyg wedi eu gosod mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gan ychwanegu eu bod yn ailadrodd eu galwad i “apwyntio Gweinidog Brechu yng Nghymru, fel yn y Deyrnas Unedig, i gymryd rheolaeth dros y rhaglen frechu, i osod targedau, ac i fod yn atebol am y rhaglen.

“Mae’r swydd o bwysigrwydd cenedlaethol, ac mae’n rhaid i’r Prif Weinidog apwyntio rhywun i’r swydd nawr.”

Prif Swyddog Meddygol Cymru yn amddiffyn y rhaglen frechu

Golwg360 wedi holi am oblygiadau’r drefn i athrawon a gweithwyr iechyd

Pryder am y bwlch 12 wythnos rhwng dosys brechlynnau

Iolo Jones

Mae meddyg teulu amlwg wedi codi pryderon am y bwlch 12 wythnos rhwng dosys y brechlynnau coronafeirws