Mae Menter Iaith Môn, ar y cyd ag Ysgol Parc y Bont, wedi cynhyrchu fideo i roi arweiniad i rieni plant cynradd ar sut i gefnogi’r addysg Gymraeg yn y cartref.

Mae’r fideo yn cael ei hanelu at rieni a gwarchodwyr di-Gymraeg, i’w galluogi, gyda chymorth apiau di-dâl, i gefnogi eu plant i ddysgu Cymraeg.

Maent yn dysgu sut i ffurfio ac ynganu llythrennau, sut i ddechrau darllen, sut i ddarllen yn rhugl, a sut i fwynhau canu, ioga a’r awyr agored yn y Gymraeg, gan ddefnyddio apiau Selog.

“Cefnogi plentyn gyda Chymraeg yn y cartref yn bosib iawn”

Esboniodd Pennaeth Ysgol Parc y Bont, Iwan Wyn Taylor:

“Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn flaengar yn sicrhau fod pob plentyn yn cyflawni ei botensial drwy adael yr ysgol gynradd gyda sgiliau dwyieithog.

“Fel pennaeth, yn debyg i addysgwyr ar draws Cymru, bu’n rhaid i mi ystyried anghenion rhieni na allant gefnogi dysgu Cymraeg eu plant adref. Felly, gyda Menter Iaith Môn, a’r disgyblion, rhieni a staff gwych yr ysgol, aethom ati i gynhyrchu’r fideo syml fel arweiniad i rieni.

“Mae’r neges yn syml: mae cefnogi plentyn gyda Chymraeg yn y cartref yn bosib i bawb,” meddai.

“Her i rai teuluoedd”

Wedi’r penderfyniad diweddaraf i gau ysgolion yng Nghymru, a chyda mwy o bwysau unwaith eto ar ddysgu yn y cartref, bu galw i rannu’r fideo yn ehangach er mwyn cefnogi rhieni sy’n gofidio nad ydyn nhw’n gallu efelychu’r trochi Cymraeg sy’n digwydd mewn ysgolion.

Dywedodd Elen Hughes, o Menter Iaith Môn:

“Sylweddolwn fod mynediad at gyfrifiaduron a hyder rhieni yn trosglwyddo’r Gymraeg yn her i rai teuluoedd.  Felly, drwy ddarparu apiau medrant ddefnyddio yn eu hamser eu hun, bydd ganddynt gyfrwng mwy ymarferol i gefnogi datblygiad Cymraeg y plant.

“Wrth gwrs, rhaid cofio hefyd, yn eu cyfnodau hamdden, fod gwylio rhaglenni plant S4C yn gwneud byd o les yn trochi plentyn o gartref di-Gymraeg yn y Gymraeg.”