Mae adroddiadau bod pedwar o bobl wedi marw yn ystod protestiadau treisgar gan gefnogwyr Donald Trump wrth iddyn nhw geisio meddiannu adeiladau’r Gyngres yn Washington ddoe (dydd Mercher, Ionawr 6).

Mewn rali ger y Tŷ Gwyn roedd yr Arlywydd Donald Trump wedi annog y protestwyr i orymdeithio i Capitol Hill i brotestio yn erbyn canlyniad yr etholiad arlywyddol, er iddo wedyn alw arnyn nhw i ymddwyn yn heddychlon unwaith i’r brotest ddechrau.

Roedd y Senedd yn y broses o gymeradwyo canlyniad yr etholiad arlywyddol pan ddechreuodd cannoedd o brotestwyr wthio heibio swyddogion yr heddlu, torri ffenestri a chwifio baneri’r Unol Daleithiau. Maen nhw’n mynnu bod yr etholiad wedi’i ennill gan y Democrat Joe Biden drwy dwyll.

Dywed yr heddlu bod pedwar o bobl wedi marw yn y protestiadau. Cafodd dynes ei saethu’n farw gan yr heddlu a bu farw tri o bobl eraill o ganlyniad i “argyfyngau meddygol”.

Mae’n debyg bod y ddynes wedi’i saethu ar ôl iddi geisio torri drwy ddrws oedd a baricêd, a swyddogion arfog y tu ôl i’r drws. Cafodd ei chludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach. Cafodd nwy dagrau ei ddefnyddio i geisio rheoli’r dorf.

Mae’r Senedd bellach wedi ail-ddechrau’r broses o gymeradwyo canlyniad yr etholiad, wrth i nifer o wleidyddion o’r ddwy ochr feirniadu’r Arlywydd Trump a’r protestiadau.

Dywedodd y darpar-arlywydd Joe Biden bod y protestiadau yn “bygwth democratiaeth” ac roedd wedi annog y protestwyr i gamu nol.

Mae disgwyl i Joe Biden gael ei urddo’n Arlywydd ar Ionawr 20.

Mae Twitter a Facebook wedi atal cyfrifon Donald Trump am y tro yn sgil pryder am “y risg o drais”.

Fe fu gwleidyddion o bob plaid yn hallt eu beirniadaeth o’r Arlywydd.