Mae Jo Stevens, Aelod Seneddol Canol Caerdydd, wedi gadael yr ysbyty ar ôl cael ei heintio â’r coronafeirws.

Daeth i’r amlwg ar Nos Galan ei bod hi wedi’i tharo’n wael â’r coronafeirws ers tro.

Mewn neges ar Twitter mae hi wedi diolch am y gofal derbyniodd yn yr ysbyty ac wedi dweud ei bod hi’n “ffodus iawn o fod yn ôl adref”.

 

Roedd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, ymhlith rheini oedd wedi dymuno’n dda iddi.

Mae arweinydd y blaid Lafur, Keir Starmer, wedi croesawu’r newyddion fod Jo Stevens wedi gadael yr ysbyty.