Mae Facebook wedi tynnu fideo, oedd wedi cael ei gyhoeddi gan Donald Trump, o’u gwefannau yn dilyn pryderon am “y risg o drais”, tra bod Twitter wedi cael gwared ag ail-drydariad o’r fideo.

Yn y fideo mae’r Arlywydd Trump yn annerch ei gefnogwyr, oedd wedi gwrthdaro gyda’r heddlu yn Washington DC wrth geisio meddiannu adeiladau’r Gyngres yn Capitol Hill.

Dywedodd yr Arlywydd wrth y protestwyr bod “yn rhaid mynd adre rŵan” gan ychwanegu “dy’n ni ddim eisiau i unrhyw un gael eu hanafu” ond roedd hefyd yn honni bod yr etholiad arlywyddol wedi’i ennill drwy “dwyll”.

Roedd Twitter wedi ychwanegu rhybudd i’r fideo gan ddweud bod ’na “anghytundeb am yr honiadau o dwyll” ac nad oedd modd ymateb i’r trydariad nac ail-drydar, oherwydd “y risg o drais”.

Ychwanegodd y byddai’n gweithredu yn erbyn unrhyw gynnwys oedd yn torri rheolau Twitter.

Cafodd fideo Donald Trump ei gwylio 10 miliwn o weithiau mewn llai nag awr ar Twitter.

Bu farw pedwar o bobl yn y protestiadau treisgar yn adeiladau’r Gyngres ddydd Mercher (Ionawr 6).

Yn y cyfamser mae Facebook wedi tynnu’r fideo yn gyfan gwbl o’u platfformau.

Dywedodd is-lywydd Facebook, Guy Rosen: “Mae hyn yn sefyllfa brys ac ry’n ni’n cymryd y mesurau priodol ar unwaith gan gynnwys tynnu fideo’r Arlywydd Trump.”