Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dechrau ymchwiliad i sylwadau’r Aelod o’r Senedd, Andrew RT Davies, am yr ymosodiadau yn Washington.

Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, sydd bellach yn llefarydd iechyd, wedi ei feirniadu am gymharu terfysgwyr adeilad y Gyngres yn yr Unol Daleithiau â phobl oedd yn cefnogi ail refferendwm Brexit.

“Roedd y golygfeydd yn Washington neithiwr yn warthus ac yn annerbyniol,” meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rydym yn eu condemnio’n llwyr. Rydym yn ymchwilio i’r sylwadau hyn.”

Bu farw pedwar o bobl yn ystod y protestiadau treisgar gan gefnogwyr Donald Trump.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford, Aelod Seneddol Llafur dros y Rhondda Chris Bryant, a’r cyn Aelod Seneddol Ceidwadol Alistair Burt ymhlith rheini sydd wedi beirniadu Andrew RT Davies.

Dywedodd Mark Drakefrod nad oes “unrhyw esgus i ddefnyddio’r digwyddiad i annog rhaniadau pellach yn ein cymdeithas.”

‘Gwarth’

Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Rhondda, Chris Bryant, bod neges Andrew RT Davies yn “warth”.

Mae hefyd wedi ysgrifennu at gyd-gadeirydd y Ceidwadwyr, Amanda Milling, yn mynnu ei fod yn cael ei atal o’r blaid.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol,” meddai yn y llythyr at Amanda Milling.

“Mae cyfateb y ddau yn dilysu trais yn yr Unol Daleithiau. Mae’n mynd y tu hwnt i ffiniau dadleuon cadarn ac yn annog trais tebyg yn y Deyrnas Unedig.”

Mae Amanda Milling bellach wedi ysgrifennu at Andrew RT Davies i’w atgoffa am ganlyniadau ei ddefnydd o iaith.

Mae’r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol Alistair Burt, hefyd wedi beirniadu sylwadau Andrew RT Davies ac wedi galw arno i ymddiswyddo.

“Mae’r gymhariaeth yma yn warthus ac yn hollol annheilwng”, meddai.

“Os ydych chi’n ddeiliad swydd o unrhyw fath yn y Blaid Geidwadol, ymddiswyddwch nawr.”

Mynnu camau

Mae Dirprwy Arweinydd Llafur yn San Steffan a Chadeirydd y Blaid, Angela Rayner, hefyd wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Blaid Geidwadol, Amanda Milling, yn mynnu bod y Blaid Geidwadol yn cymryd camau yn erbyn Andrew RT Davies, ynghyd â Susan Hall, Arweinydd y Grŵp Ceidwadol yng Nghynulliad Llundain, a wnaeth sylwadau tebyg.

Mae Ms Rayner wedi rhybuddio bod Davies a Hall, ill dau, wedi cymharu dadl ddemocrataidd yn y Deyrnas Unedig gydag “ymosodiad arfog, treisgar a sylfaenol wrth-ddemocrataidd ar ddeddfwrfa’r Unol Daleithiau” – a bod hynny’n dilysu ac yn annog trais ym Mhrydain gan danseilio democratiaeth.

Mewn datganiad, mae Rayner wedi annog y Blaid Geidwadol i gondemnio’r sylwadau hyn a’r awgrym “y gellir cyfiawnhau cymryd camau treisgar wrth anghytuno â phenderfyniadau democrataidd”.

Mae wedi gofyn i Gadeirydd y Blaid Geidwadol “a fydd Davies a Hall yn cael eu hatal rhag bod yn aelod o’r Blaid Geidwadol a’u gwahardd rhag sefyll fel ymgeiswyr Ceidwadol yn etholiadau mis Mai”.

“Ni ddylai unrhyw un amau fy safbwynt ar hyn”

Wrth i’r ffrae ddatblygu, rhannodd Andrew RT Davies neges arall ar ei gyfrifon cymdeithasol yn egluro nad oedd y digwyddiadau yn Washington yn dderbyniol.

“Fel y dywedais yn gynharach, mae’r golygfeydd yn Washington heno yn ofnadwy,” meddai.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac yn sarhad ar ddemocratiaeth ym mhobman. Diolch byth, nad yw etholiadau yn y wlad yma erioed wedi arwain at ddigwyddiadau gwarthus fel y rhai yr ydym wedi’u gweld heno.

“Ni ddylid byth gefnogi trais a byddaf yn gweithio gyda gwleidyddion i sicrhau na welwn ni byth olygfeydd fel y rhai yn Washington yn y wlad hon.

“Ni ddylai unrhyw un amau fy safbwynt ar hyn.”

Washington: Pedwar wedi marw mewn protestiadau treisgar gan gefnogwyr Trump

Cannoedd o brotestwyr wedi ceisio meddiannu adeiladau’r Gyngres

Anhrefn y Capitol: Tensiynau wedi bod yn “datblygu ers misoedd” yn yr UDA

Newyddiadurwraig o Gymru, sy’n byw yn Washington DC, yn rhannu ei safbwynt â golwg360