Mae Urdd Gobaith Cymru a phrosiect ieuenctid TG Lurgan yn Iwerddon wedi rhyddhau fideo cerddoriaeth yn y Gymraeg a’r Wyddeleg, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Mae’n nodi dechrau partneriaeth newydd rhwng ieuenctid Cymru ac Iwerddon.
Mewn fideo arbennig mae 24 o bobl ifanc yn dod at ei gilydd i ganu addasiad o gan ‘Blinding Lights’ gan The Weeknd, ‘Golau’n Dallu / Dallta ag na Solise’.
Mae’r ddau sefydliad yn rhannu’r un weledigaeth bod y Gymraeg a’r Wyddeleg yn ieithoedd deinamig a pherthnasol, ac yn awyddus i roi hyder i bobl ifanc eu defnyddio’n eang yn eu bywyd bob dydd.
Osgoi’r traddodiadol
Er bod gan Gymru ac Iwerddon ddiwylliant cerddorol gyfoethog eglurodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, nad oedd y sefydliadau am gyhoeddi cân Geltaidd draddodiadol.
“Yn hytrach, rydym wedi rhyddhau fersiwn o gân gyfredol – a hynny mewn arddull sydd i’w chlywed bob dydd,” meddai.
“Dyma’n ffordd o ddangos fod yr ieithoedd yn esblygu, fel ag yr ydym ni fel pobl yn esblygu.
“Waeth beth fo’r hinsawdd wleidyddol a sefyllfa Cymru y tu allan i Ewrop, fel sefydliad rydym ni’n awyddus i sicrhau fod ein pobl ifanc yn parhau i fwynhau profiadau unigryw fel hyn gyda chymheiriaid ledled y byd.”
Yn y gorffennol mae TG Lurgan wedi denu dros 44 miliwn o wylwyr drwy ryddhau fersiynau Gwyddelig o ganeuon cyfredol ar eu sianel YouTube,
Eglurodd Mícheál Ó Foighil, Cyfarwyddwr TG Lurgan fod dysgu am Gymru a’r Gymraeg wedi bod yn broses “ddiddorol”.
“Nid oeddem yn ymwybodol pa mor debyg oedd yr ieithoedd a’r sefyllfaoedd cymdeithasol nes i ni ddechrau gweithio gyda’r Urdd,” meddai.
“Dylai fod llawer mwy o ryngweithio diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru.
“Rydym yn gobeithio bod y prosiect hwn yn helpu i ehangu gorwelion pobl a gwneud iddynt sylweddoli nad yw’r ieithoedd mor wahanol i’w gilydd.”
‘Blwyddyn ddinistriol’
Yn dilyn “‘blwyddyn ddinistriol” i’r mudiad oherwydd y coronafeirws mae Urdd Gobaith Cymru wedi colli bron i hanner o’i gweithlu.
Mae’r mudiad hefyd yn disgwyl gwneud gostyngiad incwm o £14 miliwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf a cholledion o dros £3.4 miliwn.
Mae’r Urdd unwaith eto wedi gwneud y penderfyniad i ohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2021 “er mwyn gwarchod iechyd a lles aelodau, gwirfoddolwyr a swyddogion yr Urdd yn ogystal â’r cyhoedd”.
Wrth i’r Urdd nesáu at ei chanmlwyddiant yn 2022 mae gan y Mudiad gynlluniau uchelgeisiol i godi ymwybyddiaeth am Gymru, cynnig profiadau rhyngwladol i bobl ifanc a chynyddu’r defnydd, hyder a mwynhad o iaith leiafrifol.