Mae’r band poblogaidd Gwilym yn cyhoeddi sengl newydd o’r enw ‘50au’ heddiw.
Hon yw’r gân gyntaf i’r band ei rhyddhau ers ‘Gwalia’, a ’50au’ yw’r ail sengl oddi ar ail albwm y band.
Cafodd ‘50au’ ei recordio ym mis Medi 2019, ac roedd y band wedi bwriadu rhyddhau’r gân yn “llawer iawn cynt”.
“Roedden ni’n bendant eisiau rhyddhau’r gân yn llawer iawn cynt na hyn,” eglura canwr Gwilym, Ifan Pritchard, wrth golwg360.
“Roedd ganddo ni gigs mawr yn dod fyny yn haf 2020 – Maes B, Gig y Pafiliwn ac ati – a’r bwriad oedd bod pobol yn gyfarwydd â ’50au’ cyn hynny.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn rwystredig i bob band dw i’n meddwl.”
Mae’r gân, fel y mae’r teitl yn awgrymu, wedi ei hysbrydoli gan y 1950au, ac yn benodol gan ffilmiau’r cyfnod.
“Roedden ni eisiau dal tôn ffilmiau o’r 50au, y happy go lucky, slapstick math o vibe,” meddai Ifan Pritchard.
“Roedd gen i’r lein yma’n mynd rownd a rownd yn fy mhen: ‘Ma mywyd ar adegau fel hen ffilm o’r 50au’.
“Felly ddaru ni gymryd llwyth o deitlau ffilmiau o’r 50au, eu cyfieithu nhw a chreu rhyw fath o stori allan o hynny.
“Er enghraifft mae’r ail lein: ‘Dw i’n mynnu lle yn yr haul’ yn dod o’r film ‘A Place in the Sun’.
“Mae yna dôn eithaf eironig o cheesy i’r gân, ac rydan ni wedi trio cael hwyl efo fo.”
“Dull newydd o ‘sgwennu caneuon”
Nid ’50au’ yw’r unig gân y mae Gwilym wedi bod yn gweithio arni, gyda’r band yn defnyddio Zoom er mwyn parhau i sgwennu a chyfansoddi caneuon yn ystod y cyfnod clo.
Ac yn ôl Ifan Pritchard, mae hyn wedi galluogi’r band i ffeindio “dull newydd o sgwennu caneuon”.
“Mae’r cyfnod clo wedi gorfodi ni i eistedd lawr a dysgu sut i gynhyrchu cerddoriaeth, cymryd rôl mwy annibynnol fel aelodau ac arbrofi.
“Mae o’n ddull newydd o ‘sgwennu caneuon i ni, a dw i’n meddwl bod hynny’n dod allan yn y gerddoriaeth y byddan ni’n rhyddhau.
“Yn sicr, mae o’n broses hirach na’r arfer, ond rydan ni wedi dod allan ohono efo lot o demos, a gwell syniad o be rydan ni eisiau wrth symud ymlaen. Addasu sŵn Gwilym i rywbeth mwy aeddfed o bosib.
“Rydan ni eisiau ffeindio sŵn mwy cadarn yn yr ail albwm, a dw i’n meddwl bo’ ni wedi datblygu lot yn hynny o beth.”
“Amser trio pethau gwahanol, ond ddim rhy wahanol”
Sut flwyddyn fydd hi felly?
“Gobaith mwya’ Gwilym ar gyfer 2021 ydy gigio yn normal eto, mi fasa’n wych gallu perfformio o flaen cynulleidfa ar ôl amser mor hir,” meddai Ifan Pritchard.
“Ond rydan ni hefyd yn gobeithio gorffen sgwennu’r albwm newydd a’i recordio hi.
“Rydan ni wedi sefydlu ein hunain yn y sîn bellach, ac ella ei bod hi’n amser trio pethau gwahanol, ond ddim rhy wahanol.”