Mae S4C wedi cyhoeddi mai mis Rhagfyr oedd y mis gorau erioed o ran sesiynau gwylio ar brif dudalen Facebook y sianel.

Denodd S4C 994.7k o sesiynau gwylio, gyda chân elusennol Dwylo Dros y Môr yn dod i’r brig fel y fideo mwyaf poblogaidd.

Ymysg y clipiau eraill ddaeth i’r brig roedd Dathlu Dewrder, Jonathan, Dolig Ysgol Ni: Maesincla, Dolig Epic Chris a Cefn Gwlad: Dathlu Dai.

Bu cynnydd o 79% yn y sesiynau gwylio yn 2020 o’i chymharu â 2019, gyda 7.2m o sesiynau gwylio ar safle Facebook S4C yn ystod 2020.

Mae cynnydd hefyd wedi bod ar safleoedd Twitter a YouTube S4C gyda Cyw yn parhau i fod y sianel YouTube fwyaf poblogaidd i S4C.

“Mae’r llwyddiant hwn yn deillio o’n strategaeth i ddatblygu elfennau digidol S4C,” meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.

“Rwy’n falch iawn fod ein cynnwys Nadolig wedi taro deuddeg a denu diddordeb ar Facebook.

“Mae datblygu ochr ddigidol o fewn S4C wedi bod yn flaenoriaeth i ni ers peth amser ac mae gyda ni dîm yn gweithio yn benodol ar greu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol erbyn hyn.

“Mae’n wych gweld bod ffrwyth eu llafur yn cyrraedd y nod, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu ein darpariaeth ddigidol.”