Fydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ddim yn cael ei chynnal ar ei “ffurf arferol” eleni, yn ôl y trefnwyr.
Mae’r trefnwyr yn dweud bod cyfyngiadau ar draws y byd yn ei gwneud hi’n anodd iawn rhagweld sefyllfa lle gall nifer o bobol ddod ynghyd.
Ac mae’r Eisteddfod bellach wrthi’n cynllunio gweithgareddau, perfformiadau a chystadlaethau digidol ac yn gobeithio cyflwyno ‘Eisteddfod Hybrid’, gyda rhai pethau yn digwydd ar-lein ac eraill ar lwyfan.
Dyma fydd yr ail flwyddyn yn olynol i’r ŵyl beidio â chael ei chynnal yn ei ffurf draddodiadol oherwydd pandemig y coronafeirws.
Mae’r Eisteddfod yn dueddol o ddenu oddeutu 40,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
“Y broblem ydy… mae’r sefyllfa ryngwladol yn effeithio ar ein penderfyniad,” meddai Dr Rhys Davies, Cadeirydd yr Eisteddfod.
“[Mae] pobol yn dod yma i ddathlu, ond dydan ni ddim yn gallu gwneud trefniadau teithiau.
“Ddim yn gwybod be ’dan ni am wneud”
“Mae’n rhaid inni neud rhywbeth ac mae pobol angen gwybod bod ni dal yma.
“Ond teg dweud bod yr opsiwn o’r Eisteddfod arferol… does dim posib ’neud o.”
“Dwi ddim yn gwybod be ’dan ni am wneud ond dwi’n siŵr gallwn ni wneud rhywbeth,” meddai wedyn.
“Mae’r Urdd a’r [Eisteddfod] Genedlaethol wedi gwneud lot felly dyma’r dyfodol achos mae Covid wedi newid popeth.
“Mae o’n siom mawr nad ydy’r ŵyl yn gallu digwydd ond mae’n bwysig fod y penderfyniad wedi ei wneud.
“Heb os, i fi yn bersonol fel arweinydd, pan ’dach chi’n meddwl amdano yn wirioneddol, mae’n colli’r cyswllt personol yna.”