Mae’r Welsh Whisperer wedi bod yn gwneud ei farc draw yn Iwerddon…

Clo neu beidio, mae’r Welsh Whisperer wedi bod yn brysur… ac wedi cyrraedd rhif dau yn y siartiau canu gwlad Prydeinig.

Do, fe fu’n rhaid canslo degau o gigs y llynedd, ond fe lwyddodd y Cowboi Cymreig i lenwi ei ddyddiadur mewn ffyrdd eraill.

Fe lansiodd ddau fath gwahanol o gwrw, sydd wedi profi mor boblogaidd nes eu bod wedi gwerthu allan.

A thros y Dolig roedd y Welsh i’w weld ar lu o raglenni S4C – Dwylo Dros y Môr 2020, Rhaglen Dolig Gareth, a Hewlfa Drysor… ac mi fydd ganddo’i gyfres ei hun ar y bocs yn 2021.

Ac fel tase hynny i gyd ddim yn ddigon, mae’r dyn gyda’r mwstash wedi bod yn gwneud ei farc dros y môr yn Iwerddon, a hynny gyda dwy sengl Saesneg y bu iddo’u recordio cyn y cyfnod clo cynta’ – ‘Grafting all the time!’ a ‘The B Road Bandit’.

Er mawr glod iddo, mae un o sêr canu gwlad Iwerddon wedi mopio gymaint gyda’r gân ‘Grafting all the time!’, mae wedi gofyn am gael recordio ei fersiwn ei hun ohoni.

“Wnes i benderfynu cyhoeddi dwy sengl Saesneg jesd fel change bach, ac roedden nhw wedi cael eu hanelu ychydig bach yn fwy tuag at y farchnad canu gwlad Gwyddelig,” eglura’r canwr.

“Maen nhw wedi gwneud yn dda iawn, wedi cael dipyn o air time draw fan yna ar bob math o orsafoedd radio yn y gogledd ac yn y Weriniaeth, ac yn yr Alban hefyd.

“Achos beth wnes i oedd cydweithio gyda phobol sy’n dosbarthu caneuon canu gwlad yn y gwledydd yna.

“Ac maen nhw yn wahanol iawn i Gymru, achos mae llawer mwy o orsafoedd radio lleol a masnachol, ond tydyn nhw ddim i gyd jyst yn chwarae chart music fel sy’n digwydd ffordd hyn…

“Os wyt ti’n artist [canu gwlad], heblaw am Radio Cymru a weithie Radio Wales, mae hi’n anodd cael dy gerddoriaeth ar [orsafoedd] Capital a Heart.

“Tydyn nhw ddim yn poeni am gael cerddoriaeth artistiaid newydd, gwreiddiol, o Gymru. Maen nhw yn chwarae stwff Anglo-Americanaidd, chart music sy’n enwog dros y byd.

“Ond yn Iwerddon a’r Alban mae lot fwy o orsafoedd sy’n arbenigo mewn gwahanol fathau o gerddoriaeth, felly mae hwnna wedi siwtio fi yn well.

“Ac mae boi o’r enw Seamus Moore, un o’r rhai mwya’ enwog mas yn Iwerddon sy’n canu’r un math o steil a beth dw i’n ei wneud, yn mynd i wneud cyfyr o’r un ddiwetha’ wnes i, sef ‘Graftin all the time!’.

“Ac mae honna yn dod mas dechrau’r flwyddyn, ac mae yn dipyn o beth i fi gael rhywun sydd mor llwyddiannus ac mor enwog i wneud eu fersiwn nhw o gân dw i wedi’i chyfansoddi. Grêt!”

Mi brofodd lwyddiant gyda’r sengl Saesneg arall, ‘The B Road Bandit’, hefyd.

“Aeth honna i rif dau ar siart canu gwlad Prydeinig itunes, ac roedd hwnna yn dipyn o sioc…

“Mae e’n grêt gallu dweud bod e’ wedi cyrraedd rhif dau, ac yn bendant mae e’ wedi gweithio i fi o ran bod mwy o artistiaid a rheolwyr mas yn Iwerddon wedi clywed amdano fi nawr, achos mae e’ wedi ei chwarae ar y gorsafoedd radio maen nhw yn gwrando arno bob dydd.

“Ma’ proffil y Welsh Whisperer wedi codi tipyn bach draw yn fan’na, sy’n beth da i fi.”

Cyn y clo, roedd y Cowboi Cymreig ar ei ffordd draw i’r Ynys Werdd i gynnal gigs.

“Mae’r farchnad Wyddelig tipyn yn fwy o ran scale. Mae’r arian lot gwell, y gigs yn fwy, y gynulleidfa yn fwy, ma’ pethe lot mwy proffesiynol draw fan yna.

“Bydde fe’n dda gallu mentro draw.”

Cwrw Cap Stabal

Cwrw Cap Stabal

Fel sawl entrepreneur arall, mae’r Welsh Whisperer wedi gorfod arallgyfeirio yn ystod y cyfnod clo.

“Pan ti’n rhyddhau caneuon yn ddigidol mae’n grêt ac yn cael sylw, a chael i rhif dau yn y siartiau yn ffantastig – ond dyw e’ ddim yn mynd i ddod â llawer o incwm fewn, yn anffodus.

“Felly dw i wedi cydweithio gyda bragdai Bluestone a Cwrw Ogwen, ac mae ganddo ni ddau gwrw allan.”

Cwrw ‘Gwd Thing!’

Mae ‘Gwd Thing! Celtic Lager’ yn dod mewn potel gydag enw ac wyneb y Welsh Whisperer arno, ac yn cael ei fragu gan gwmni Bluestone Brewing yn Nhrefdraeth yng ngogledd Sir Benfro.

A fyny yn y gogledd mae bragwyr Cwrw Ogwen ym Methesda wedi creu cwrw chwerw ‘Cwrw Cap Stabal’ – eto gyda llun o Welsh yn gwisgo’i gap.

“Mae’r ddau [gwrw] wedi gwerthu allan yn llawer yn gynt na be’r oedden nhw yn ddisgwyl,” meddai’r cerddor yn falch.

A faint yn union sydd wedi ei werthu i Gymry sychedig y locdawn?

“Wnaethon nhw wneud dros fil o litrau, sydd rhyw 250 i 300 o gêsus o boteli yr un, ac mae’r rheina i gyd wedi mynd.”

Mae’r Welsh Whisperer yn giamstar ar farchnata ei hun ac mae ganddo fwy o merchmerchandise – na gweddill y Sîn Roc Gymraeg gyda’i gilydd.

Ar ei wefan fe welwch chi fagned oergell Welsh Whisperer, câs pensiliau’r canwr, cap ‘Gwd Thing!’, crys-T ‘Fflat Owt!’ a’i lyfr Ffyrdd y Wlad.

Ond – yn destament i’w boblogrwydd – does dim modd archebu ei albwms poblogaidd Y Dyn o Gwmfelin Mynach a Dyn y Diesel Coch – maen nhw wedi gwerthu allan!

Magned oergell y canwr

Albwm newydd ar y ffordd

Y llynedd roedd y Welsh Whisperer wedi rhoi band llawn at ei gilydd, a’r bwriad cyn Covid oedd rhoi gwell sioe i bobol yn y Royal Welsh a sioeau mawr amaethyddol eraill.

“Ro’n i’n arfer gwneud lot ohonyn nhw ar fy mhen fy hun,” cofia’r canwr.

“A weithiau ti’n troi fyny i’r sioeau yma ac maen nhw yn llawer mwy nag beth mae pobol yn disgwyl, a falle bod 500, 700, 800 o bobol yna – mwy weithiau, maen nhw yn seriously enfawr.

“A pan ti ar dy ben dy hun gydag acwstig gitâr a backing track, dyw e’ bendant ddim digon da. Felly roeddwn i eisiau dod â’r band llawn fewn.”

Ac eleni mae yn gobeithio cael y band at ei gilydd i recordio albwm fyw.

“Bydd ambell gân newydd ar yr albwm fyw, ond hefyd yr hen ffefrynnau – ychydig bach fel ‘Goreuon’, ond gyda’r ongl wahanol bod yr holl beth yn cael ei recordio yn fyw yn y stiwdio.

“Ond pwy a ŵyr pryd y bydd hynny’n digwydd? Ar hyn o bryd mae hi’n anodd i ni ymarfer hyd yn oed.”

Welsh Whisperer TV

Roedd y Welsh Whisperer yn bla ar y bocs dros y Dolig, ac mae hi am barhau felly yn 2021.

Ar hyn o bryd mae i’w weld yn cyflwyno Hewlfa Drysor gyda Lisa Angharad ar S4C, wrth i dri thîm yrru mewn tri char ar helfa drysor yng nghefn gwlad.

Ac yn y misoedd nesaf fe fydd ganddo’i gyfres ei hun ar y Sianel Gymraeg – Ni’n Teithio Nawr!

“Y syniad gwreiddiol oedd mynd rownd pentrefi lleol yn sgwrsio gyda chymeriadau diddorol, lliwgar am yr ardaloedd,” eglura.

“A chael sing-song wedyn ar y diwedd, yn y dafarn, a pawb yn dod yno i gael hwyl.

“Ond, wrth gwrs, doedden ni methu gwneud hwnna, gyda’r busnes Covid…

“Felly roedd rhaid i ni wneud y sioe tu allan, yn y pentrefi… ac mi fues i sawl ardal wahanol – Llanboidy, Pontyberem, Llanrhaeadr, Llangeitho, Dre-fach Felindre a Sarn Mellteyrn.”

Seiclo yn y cyfnod clo

Mae sawl un wedi troi at hobi newydd yn ystod y cyfnod clo, a seiclo fu hanes y Welsh Whisperer.

Ac wrth bedlo o’i gartref ym Methesda am ddinas Bangor, mae wedi gweld ambell wyneb cyfarwydd.

“Weles i Dewi Llwyd heddi’, mae e’n seiclo hefyd… a weles i Cefin Roberts. Felly all the celebs allan heddi’, spotted cycling!”