Fe wnaeth pennod gyntaf drama ITV The Pembrokeshire Murders am ddwy lofruddiaeth ddwbwl yn Sir Benfro ddenu 6.3m o wylwyr neithiwr (nos Lun, Ionawr 11).

Dyma’r nifer fwyaf o wylwyr ar gyfer noson gyntaf unrhyw ddrama ar y sianel ers darlledu The Durrells yn 2016 a’r nifer fwyaf ar gyfer unrhyw bennod o ddrama ers Vera yn 2018.

Hwn hefyd yw’r nifer fwyaf o wylwyr ar gyfer drama newydd ar unrhyw sianel ers dechrau darlledu The Salisbury Poisonings ar y BBC (7.2m o wylwyr).

Ymhlith cast The Pembrokeshire Murders mae Luke Evans a Keith Allen ac roedd gwylwyr y bennod gyntaf yn cyfrif am draean (33%) o’r holl wylwyr teledu neithiwr.

Bydd yr ail bennod yn cael ei darlledu heno (nos Fawrth, Ionawr 12) a’r drydedd bennod nos yfory (nos Fercher, Ionawr 13) am 9 o’r gloch.

Llofruddiaethau

Mae’r ddrama’n seiliedig ar hanes y llofrudd John Cooper.

Cafodd ei garcharu fis Mai 2011 a’i ddedfrydu i oes gyfan o garchar am lofruddio’r brawd a chwaer Richard a Helen Thomas yn 1985 a’r cwpl Peter a Gwenda Dixon yn 1989.

Cafodd deunydd fideo o’i ymddangosiad ar y rhaglen deledu Bullseye ei ddefnyddio fel tystiolaeth yn ei erbyn.

Adeg yr ymchwiliad i’r llofruddiaethau, roedd e yn y carcahr am dreisio merch 16 oed ac ymosod yn rhywiol ar ferch 15 oed gan ddefnyddio dryll mewn ardal goediog yn Aberdaugleddau yn 1996, ac yn aros i gael parôl.

Fe wnaeth yr heddlu adeiladu pentwr o dystiolaeth yn ei erbyn wrth iddo gael ei ryddhau o’r carchar yn 2009, ac fe gafodd ei arestio ar ôl i’r heddlu adnabod ei ddryll drwy ddefnyddio datblygiadau fforensig a DNA nad oedden nhw ar gael ar ddechrau’r ymchwiliad.

Cafodd ei arestio fis Mai 2009 a’i gael yn euog ddwy flynedd yn ddiweddarach o lofruddio pedwar o bobol ac o ymosod yn rhywiol ar nifer o bobol.

Apeliodd yn erbyn ei ddedfryd yn 2011 ond cafodd yr apêl ei gwrthod a bydd yn treulio gweddill ei oes dan glo.

Yn y ddrama, Luke Evans sy’n actio cymeriad y plismon oedd wedi arwain yr ymchwiliad diweddaraf, a Keith Allen yn actio cymeriad John Cooper.