Penllanw “misoedd” o densiwn – dyna oedd y sefyllfa flêr a welwyd yn Washington DC brynhawn ddoe, yn ôl newyddiadurwraig o Gymru.
Gan ymateb i anogaeth yr Arlywydd heidiodd miloedd o gefnogwyr Donald Trump i adeilad y Capitol (cartref siambrau seneddol yr Unol Daleithiau) gan achosi cryn ddifrod.
Bu farw pedwar person yng nghanol yr anhrefn, arestiwyd o leiaf 52, a bu’n rhaid cyflwyno cyrffiw llym yn y brifddinas.
Mae Maxine Hughes yn byw yn y ddinas honno, ac wedi gohebu cryn dipyn ar densiynau gwleidyddol ei gwlad fabwysiedig, ac mae’n awgrymu nad yw’r cyfan syndod iddi.
“Dw i’n teimlo bod y sefyllfa yma wedi bod yn datblygu ers misoedd,” meddai wrth golwg360.
“Gyda’r gwaith dw i wedi bod yn ei wneud – projects gwahanol ar gyfer S4C – dw i wedi bod yn dilyn y grwpiau yma. Grwpiau fel y Proud Boys, militia, Antifa.
“A dw i wedi bod yn edrych ar sut mae’r tensiynau yma yn datblygu. Ac maen nhw jest wedi bod yn tyfu yn fwy ac yn fwy.
“Am sbel mae pobol wedi bod yn poeni y bydd y rhyfel diwylliannol yma yn troi allan i fod yn rhyfel go iawn,” meddai wedyn.
“Ac mewn ffordd, roedd beth y gwelsom ni ddoe, yn boiling point, yn culmination o beth yr ydym wedi gweld ar strydoedd America.”
Llonyddwch cyn y storom?
Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod Washington wedi profi sawl protest – a sawl cyrffiw – dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae’n pwysleisio bod ddoe yn “gam lot pellach” ac yn “wahanol iawn”.
“Heddiw, dw i’n credu bod pobol mewn rhyw fath o state of shock,” meddai. “Mae yna deimlad o sioc ar y strydoedd. Mae’r strydoedd yn dawel iawn.
“Mae’n anodd mynd mewn i ganol dre heb press pass. Felly does dim pobol [o gwmpas].
“Mae’r heddlu rili yn trio cadw pobol allan o ganol y dre. Dw i’n credu eu bod nhw’n poeni bod pobol eraill yn mynd i gyrraedd DC i drio protestio.
“Mae’n ddelwedd od iawn,” meddai wedyn. “Mae fel rhywbeth allan o ffilm! Prifddinas superpower y byd, national guard ym mhob man, ac mae yna curfews.
“Dydyn ni ddim fel arfer yn gweld hyn mewn gwledydd fatha America. Felly, ia, mae’n od. Mae’n dawel. Mae’n eitha’ calm.
“Ond dw i ddim yn siŵr os taw calm before the storm yw hyn a bod rhywbeth arall yn mynd i ddigwydd.”