Mae Priti Patel wedi beio sylwadau ymfflamychol Donald Trump am bryfocio’r protestiadau treisgar yn adeiladau’r Gyngres yn Washington ddoe (Ionawr 6).

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref bod datganiad yr Arlywydd, lle’r oedd yn dweud wrth y protestwyr ei fod yn eu “caru” nhw, ac yn honni eto bod Joe Biden wedi ennill yr etholiad arlywyddol drwy dwyll, wedi “gwneud ychydig iawn i leddfu’r sefyllfa” ac mae wedi galw arno i gondemnio eu gweithredoedd

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi galw “am drosglwyddo grym yn heddychlon ac yn drefnus” ar ôl i brotestwyr geisio meddiannu adeiladau’r Gyngres yn Washington DC. Dywedodd bod y golygfeydd yn “warthus”.

Bu farw pedwar o bobl yn y gwrthdaro – cafodd dynes ei saethu’n farw yn yr adeilad, tra bod tri pherson arall wedi dioddef “argyfyngau meddygol” meddai’r heddlu.

Trump “heb gondemnio’r trais”

Mae Twitter a Facebook wedi atal Donald Trump rhag postio rhagor o negeseuon ar ôl iddo gyhoeddi fideo yn ail-adrodd honiadau o dwyll am yr etholiad, a hynny wrth i aelodau’r Senedd fod yn y broses o gymeradwyo buddugoliaeth Joe Biden.

Mewn cyfweliad ar BBC Breakfast roedd Priti Patel wedi beio Donald Trump am bryfocio’r protestwyr.

“Roedd ei sylwadau wedi arwain yn uniongyrchol at y trais a hyd yn hyn mae o wedi methu condemnio’r trais ac mae hynny’n gwbl anghywir,” meddai.

Mae gwleidyddion o bob plaid wedi condemnio’r protestiadau. Dywedodd yr arweinydd Llafur Syr Keir Starmer eu bod yn “erchyll” gan drydar: “Nid ‘protestwyr’ yw’r rhain – mae hyn yn ymosodiad uniongyrchol ar ddemocratiaeth.”