Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi addo y bydd yn trosglwyddo’r awenau yn drefnus i’r darpar arlywydd Joe Biden.

Daw hyn wedi i Gyngres yr Unol Daleithiau gymeradwyo buddugoliaeth etholiad arlywyddol Joe Biden yn ffurfiol.

Fodd bynnag tra roedd y Senedd yn y broses o gymeradwyo’r canlyniad bu protestiadau treisgar yn adeilad y Gyngres a arweiniodd at bedwar o bobol yn colli eu bywydau. 

Yn ol adroddiadau mae aelodau o Gabinet Donald Trump yn ystryied gweithredu’r pumed gwelliant ar hugain i’w orfodi o’i swydd.

Dywedodd Donald Trump mewn datganiad a rannwyd gan ei gyfarwyddwr cyfryngau cymdeithasol, Dan Scavino, ei fod yn parhau i anghytuno a chanlyniad yr etholiad.

“Er fy mod yn anghytuno’n llwyr â chanlyniad yr etholiad a’r ffeithiau, bydd trosglwyddiad trefnus ar Ionawr 20.

“Rwyf bob amser wedi dweud y byddem yn parhau â’n brwydr i sicrhau mai dim ond pleidleisiau cyfreithiol oedd yn cael eu cyfrif.

“Er bod hyn yn cynrychioli diwedd y tymor arlywyddol cyntaf mwyaf hanesyddol erioed, dim ond dechrau ein brwydr i ‘Wneud America’n Wych Unwaith Eto’ yw hyn.”

Mae gwefannau cymdeithasol wedi atal defnydd yr Arlywydd Trump o’i gyfrifon yn sgil pryderon am “drais”.