Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi derbyn miloedd o bunoedd oddi wrth un o deuluoedd cyfoethocaf Prydain, yn ôl cofnodion San Steffan.

Mae’r gofrestr o fuddiannau (register of interests) ddiweddaraf ar gyfer Aelodau Seneddol yn dangos bod Virginia Crosbie wedi derbyn rhodd o £7,500 oddi wrth y Cayzer Trust.

Derbyniodd y swm yma ym mis Tachwedd y llynedd, ac yn gynharach yn y flwyddyn mi dderbyniodd £3,500 oddi wrth yr United and Cecil Club.

Mae adroddiad gan Nation.cymru yn awgrymu bod yr arian yn mynd tuag at gadw seddi Ceidwadol yng ngogledd Cymru yn las, ac yn awgrymu mai “cyrff codi arian i’r Torïaid” yw’r rhain.

Y Cayzers

Mae’r Cayzer Trust yn gofalu am gyfoeth teulu’r Cayzers – sef y 172ain teulu cyfoethocaf ym Mhrydain yn ôl y Sunday Times Rich List.

Yn ôl adroddiadau roedd ganddyn nhw gyfoeth o dros biliwn o bunnoedd yn 2019, ond mae hynny bellach wedi cwympo i £819m.

Mae cofnodion y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod y Cayzer Trust wedi rhoi £371, 540 i’r blaid Geidwadol a’i hymgeiswyr ers 2005.