Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, hyfforddi brechwyr newydd arweiniodd at oedi cyn i bobl gael eu brechu yn Ysbyty Enfys Llandudno, yn adeilad Venue Cymru, ddydd Mercher, Ionawr 6.

Dywedodd Bethan Jones, Cyfarwyddwr Ardal Ganolog y bwrdd, bod nifer o bobl wedi cyrraedd am eu hapwyntiadau yn gynnar, a bod hynny hefyd wedi arwain at orfod disgwyl yn hirach.

Mae BBC Cymru yn adrodd fod pobl wedi bod yn ciwio am hyd at dair awr am frechlyn a bod rhai wedi gadael y ciw.

‘Oedi sylweddol’

“Rydym yn ymwybodol bod oedi sylweddol wedi bod yn ein canolfan frechu torfol yn Ysbyty Enfys Llandudno ddoe (Ionawr 6),” meddai Cyfarwyddwr Ardal Ganolog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Rydym yn ymddiheuro i bawb sydd wedi gorfod disgwyl yn hir am eu brechiad.

“Roedd nifer o frechwyr newydd wedi cyrraedd y safle er mwyn i ni fedru ehangu ein rhaglen, ac roedd angen hyfforddi’r unigolion yma cyn eu bod yn medru dechrau brechu pobl.

“Hefyd fe wnaeth nifer o bobl oedd fod cael brechiad gyrraedd y ganolfan dipyn cyn amser eu hapwyntiadau, gan arwain at nifer o bobl yn gorfod disgwyl yn hirach.

“Felly, rydym yn atgoffa pawb sydd wedi derbyn gwahoddiad ar gyfer brechiad i gyrraedd ar yr amser sydd wedi ei bennu iddyn nhw, ac nid cyn hynny.

“Rydym yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau fod pawb yn cael eu gweld o fewn amser priodol.”

Yn y cyfamser mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bydd ffigurau brechu dyddiol yn cael eu cyhoeddi o ddydd Llun, Ionawr 11, ymlaen – mae bron i 50,000 wedi’u brechu hyd yma.

Er bod y Ceidwadwyr Cymreig a fu’n galw am gyhoeddi’r ffigurau wedi croesawu’r newid maen nhw’n parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i greu swydd Gweinidog Brechiadau i gymryd rheolaeth dros y rhaglen frechu yng Nghymru.

Darllen mwy: