Bydd peirianyddion British Gas yn cynnal streic pump diwrnod o hyd o ddydd Iau ymlaen, yn ymateb i bryderon am dâl ac amodau gwaith.

Yn ôl undeb y GMB mi fydd aelodau yn ffurfio llinellau biced ledled y Deyrnas Unedig, gan gadw at reolau pellhau cymdeithasol.

Bydd 4,500 o beirianyddion nwy (trwsio a gwasanaeth), 600 o osodwyr gwres canolog, 540 peiriannydd trydan, 170 peiriannydd arbenigol, a 1,700 peiriannydd  mesurydd deallus, oll yn cymryd rhan.

Mae Centrica, perchennog British Gas, yn dweud bod cynlluniau ar waith er mwyn diogelu cartrefi pobol fregus, ac er mwyn ymateb i achosion brys.

Tanio’r streic

Yn ôl Judith Bowden, Swyddog Cenedlaethol GMB, mae’r streic wedi cael ei danio gan “fygythiadau” British Gas.

“Mae aelodau GMB o ben pellaf Cernyw hyd at dop yr Alban wedi aros adre, cadw’n saff… a chefnogi’r streic nwy cenedlaethol cyntaf ers degawd,” meddai.

“Mae misoedd ar fisoedd o fygythiadau i swyddi a chyflogau, oddi wrth Brif Weithredwr British Gas, Chris O’Shea, wedi esgor ar y streic yma gan beirianwyr a staff canolfannau galwadau.

“Dyma’r unig opsiwn sydd ganddyn nhw bellach. Mae’r cwmni yn gwneud elw £901m ond yn bwriadu eu sacio oherwydd dydyn nhw ddim yn fodlon derbyn dyfnder y toriadau arfaethedig.”

“Achosi aflonyddwch”

“Rydym wedi gwneud popeth y gallwn â GMB er mwyn osgoi gweithredu diwydiannol,” meddai llefarydd ar ran Centrica.

“Er ein bod ni wedi cymryd camau calonogol ymlaen ag undebau eraill, mae’n ymddangos bod y GMB yn benderfynol i achosi aflonyddwch yn ystod penwythnos oeraf y flwyddyn.

“A hynny yng nghanol argyfwng iechyd, a chyfnod clo cenedlaethol.”