Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd 49,403 o bobl yng Nghymru wedi derbyn brechiad Pfizer/BioNTech yn erbyn y coronafeirws hyd at 3 Ionawr – sef 1.54% o boblogaeth Cymru.

Fodd bynnag dim ond 25 o’r rheini sydd wedi derbyn ail ddos o’r brechlyn.

Cafodd dros 14,000 o bobl eu dos cyntaf o frechlyn dros yr wythnos ddiwethaf.

Nid yw’r data yn cynnwys brechlyn Rhydychen/AstraZeneca gafodd ei gyflwyno yn ddiweddar, felly dywed swyddogion iechyd y bydd nifer wirioneddol y brechlynnau a roddir yn uwch.

‘Cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl’

Dywedodd Dr Gillian Richardson, uwch swyddog rhaglen frechu Covid-19 Cymru: “Dim ond pedair wythnos ers i’r brechlyn Covid-19 cyntaf gael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio yn y DU ac mae bron i 50,000 o bobl wedi derbyn brechlyn.

“Dyma’r rhaglen frechu dorfol gyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae ymdrechion GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn eithriadol.

“Mae nifer y dosau na ellir eu defnyddio wedi bod yn anhygoel o isel – ar tua 1% – ac yn sylweddol is na’r lefelau a ragwelwyd, diolch i’r drefn gadarn o gynllunio apwyntiadau a rhestrau wrth gefn.

“Mae cymeradwyaeth ddiweddar brechlyn Oxford-AstraZeneca yn mynd i newid gêm go iawn a bydd yn ein helpu i gyflymu ein rhaglen frechu yn sylweddol.

“Dros y tair wythnos nesaf, byddwn yn derbyn 105,000 dos arall o’r ddau frechlyn i helpu i amddiffyn pobl sydd fwyaf mewn perygl.

“Mae’r GIG yn darparu brechlynnau cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl i bobl yn y grwpiau blaenoriaeth.”

‘Loteri cod post’

Mae Andrew RT Davies, llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd ffigurau brechu Cymru yn cael eu diweddaru’n ddyddiol o ddydd Llun Ionawr 11 ymlaen.

Daw’r hyn wedi i’r Ceidwadwyr Cymreig alw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r ffigurau er mwyn gosod targedau i frechu mwy o bobl.

“Wrth gwrs rydym yn croesawu’r cynnydd yn nifer y brechiadau, ond y cyfrifiad bras yw bod un o bob 65 o bobl yng Nghymru wedi cael eu brechu o gymharu ag un o bob 50 yn Lloegr,” meddai.

“Mae loteri cod post wedi dod i’r amlwg yma yng Nghymru, ac nid yw’r darlun yn edrych yn dda.

“Rydych ddwywaith yn fwy tebygol yn ne Cymru o fod wedi cael y brechiad, a thair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi’i gael yng Nghanolbarth Cymru, nag yng Ngogledd Cymru.

“Rydym yn galw unwaith eto ar y Prif Weinidog i greu swydd Gweinidog Brechiadau i gymryd rheolaeth gyffredinol dros gyflwyno’r rhaglen yma ac i gyhoeddi targedau ar gyfer y rhaglen frechu.”

‘Tasg sylweddol’

“Mae brechu poblogaeth oedolion Cymru, er mwyn amddiffyn pobl rhag clefydau difrifol, yn dasg sylweddol, a bydd y brechlyn yn cymryd amser i gyrraedd pawb,” meddai Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Digwyddiadau’r Coronafeirws Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Dangosodd epidemioleg Covid-19 ledled y Deyrnas Unedig ddiwedd 2020 fod angen clir am lefelau cyflym, uchel o frechlynnau ymhlith pobl sy’n agored i niwed.

“Gellir tybio y bydd y dos cyntaf yn amddiffyn yn y tymor canolig, ond bydd dal angen yr ail ddos ddarparu amddiffyniad parhaus.

“Mae’r Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio yn cynghori dechrau blaenoriaethu cyflwyno’r dos cyntaf gan fod hyn yn debygol iawn o gael mwy o effaith ar iechyd y cyhoedd yn y tymor byr a lleihau nifer y marwolaethau Covid-19.”

Brechu fesul Bwrdd Iechyd

Er mai Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sydd wedi darparu’r nifer lleiaf o frechlynnau – nhw sydd wedi brechu’r canran uchaf o boblogaeth eu hardal hyd yma.

O’r holl fyrddau iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi brechu’r canran lleiaf.

Ddydd Mercher, Ionawr 6, bu rhaid Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ymddiheuro am “oedi sylweddol” yn eu canolfan frechu yn Ysbyty Enfys Llandudno.

 

Bwrdd Iechyd Nifer sydd wedi’u brechu Canran
Powys 4,047 3.05%
Hywel Dda 7,949 2.05%
Bae Abertawe 7,088 1.82%
Cwm Taf Morgannwg 7,290 1.62%
Caerdydd a’r Fro 7,874 1.57%
Aneurin Bevan 8,244 1.39%
Betsi Cadwaladr 5,698 0.81%
Anhysbys 224

 

Ysbyty maes newydd Hywel Dda

Ddydd Iau, cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod ysbyty maes Ysbyty Enfys Carreg Las ar safle Bluestone ger Pont Canaston, Sir Benfro, bellach yn derbyn cleifion.

Bydd y safle’n caniatáu i gleifion symud allan o ofal acíwt cyn cael eu rhyddhau adref.

Erbyn hyn mae ysbytai maes ym mhob un o’r tair sir – Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion – a gwmpesir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Dywedodd Dr Meinir Jones, cyfarwyddwr meddygol cyswllt y bwrdd iechyd ac arweinydd clinigol yr ysbytai maes: “Rydym yn falch iawn o gael safle capasiti ychwanegol gweithredol arall i helpu i leddfu’r pwysau ar ein hysbytai acíwt.

“Bydd Covid-19 gyda ni ers peth amser, ac er bod cyflwyno dau frechlyn yn newyddion gwych, mae’r bwrdd iechyd yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu’r gofal gorau posibl i’n cymunedau.

“Mae’r ysbytai maes hyn yn rhan bwysig o’n strategaeth ehangach i fynd i’r afael â’r pandemig.”

Ffigurau Covid diweddaraf

Cofnodwyd 1,718 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru heddiw, Ionawr 7, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 163,234.

Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 63 yn rhagor o farwolaethau, gan fynd â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 3,801.

Mae’r ffigurau’n dangos mai’r gyfradd saith diwrnod o achosion ar gyfer Cymru tan 2 Ionawr oedd 486.5 achos fesul 100,000 o bobl.

Y gyfradd gadarnhaol o’r profi ledled Cymru oedd 24.3%.

Darllen mwy:

Cyfraddau Covid-19 wythnosol diweddaraf ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol Cymru

Mewn 10 o’r 22 ardal awdurdod lleol mae’r gyfradd wedi codi, tra bod y 12 ardal arall wedi gweld gostyngiad.