Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi amddiffyn cynllun brechu’r coronafeirws, gan ddweud na ddylid trin niferoedd fel rhai manwl gywir.

Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 31) fod 35,335 o bobol wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn Pfizer/BioNTech erbyn Rhagfyr 27.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Prydain, roedd 786,000 o bobol drwy wledydd Prydain wedi derbyn y brechlyn erbyn y dyddiad hwnnw, gyda 31,016 yng Ngogledd Iwerddon a 92,188 yn yr Alban.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o fod “ar ei hôl hi”, gan alw ar weinidogion i gyflymu’r broses.

‘Gwaith i’w edmygu’

Mewn datganiad, dywed Vaughan Gething fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gwneud “gwaith i’w edmygu” o ystyried heriau’r brechlyn.

Dywed ei fod yn “cydnabod fod data’n dangos bod gwledydd eraill ar y blaen i ni”, ond y dylid ystyried data cychwynnol fel “amcan” ac yn “gip ar y gweithgarwch parhaus”.

Mae’n dweud y gall sawl ffactor effeithio ar ffigurau pob un o wledydd Prydain, gan gynnwys arafwch wrth fewnbynnu data a’r ffaith fod achosion o’r coronafeirws mewn canolfan frechu yng Nghaerdydd yn golygu y bu’n rhaid rhoi’r gorau i frechu pobol am gyfnod.

Ond mae’n mynnu bod cyfraddau brechu’n cynyddu ledled Cymru, ac y byddan nhw’n cynyddu eto yn sgil rhoi sêl bendith i frechlyn Rhydychen/AstraZeneca, gyda rhai meddygfeydd yn dechrau cynnig y brechlyn o ddydd Llun (Ionawr 4).

Mae nifer y canolfannau brechu wedi codi o 14 i 22, ac fe fydd mwy o staff yn cael eu cyflogi dros yr wythnosau i ddod.

Canmoliaeth a beirniadaeth

Tra bod Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, yn canmol y Gwasanaeth Iechyd am eu gwaith wrth gyflwyno’r rhaglen frechu, mae’n beirniadu Llywodraeth Cymru am “ddryswch” sy’n golygu bod nifer fawr o bobol dros 80 oed yn dal i aros i gael eu brechu.

“Mae tair miliwn o bobol yng Nghymru, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i fyny a chynnig arweiniad er mwyn sicrhau bod y brechlyn yn mynd allan yn gynt,” meddai.

Mae’n mynnu y dylai 100,000 o frechlynnau gael eu rhoi bob wythnos, ond fod Llywodraeth Cymru “ymhell o’r targed hwnnw”.

Blaenoriaeth

Yn ôl Vaughan Gething, bydd Llywodraeth Cymru’n dilyn cyngor prif swyddogion meddygol gwledydd Prydain wrth flaenoriaethu pwy ddylai fod yn derbyn y brechlyn fesul cam.

Bydd apwyntiadau ar gyfer yr ail ddos o heddiw (dydd Gwener, Ionawr 1) yn cael eu trefnu ar gyfer 12 wythnos ar ôl y dos cyntaf ar sail tystiolaeth wyddonol ac er mwyn cynyddu capasiti yn y cyfamser.

Dywed fod y cyngor yn awgrymu rhoi dos cyntaf i gynifer o bobol fregus â phosib yn hytrach na rhoi dau ddos i lai o bobol.

Ond mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r dystiolaeth sydd wedi arwain at y “newid sydyn” yn ogystal ag eglurhad ynghylch “moesoldeb” y newid.