“Gadewch y golau ymlaen” oedd neges Nicola Sturgeon ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol am 11 o’r gloch neithiwr (nos Iau, Rhagfyr 31).

Yn ôl prif weinidog yr Alban, byddai’r wlad yn ceisio dychwelyd i’r Undeb Ewropeaidd pe bai’n dod yn wlad annibynnol.

Ond tan hynny, bydd yn rhaid i’r wlad ddilyn rheolau’r cytundeb Brexit a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Prydain ar Noswyl Nadolig.

“Bydd yr Alban yn ei hôl yn fuan, Ewrop. Gadewch y golau ymlaen,” meddai Nicola Sturgeon wrth drydar llun o’r geiriau Ewrop a’r Alban ynghyd â chalon – delwedd sydd wedi ymddangos ar wal Comisiwn Ewrop ym Mrwsel cyn hyn.

Annibyniaeth yw’r “unig ateb”

Yn ôl Mike Russell, Ysgrifennydd Cyfansoddiad yr Alban, annibyniaeth yw’r “unig ateb” i sefyllfa’r wlad erbyn hyn ar ôl Brexit.

Daw ei sylwadau yn dilyn cadarnhad o’r trefniadau unigryw ar gyfer Gogledd Iwerddon a Gibraltar.

Mae gan Ogledd Iwerddon brotocol ar wahân er mwyn osgoi ffin galed â Gweriniaeth Iwerddon, tra bydd modd symud yn rhydd rhwng Gibraltar a Sbaen.

Fis Rhagfyr 2016, yn dilyn refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban gynnig er mwyn cael aros yn y farchnad sengl.

Yn ôl Mike Russell, mae’r ffaith nad oes gan yr Alban drefniadau tebyg i Ogledd Iwerddon a Gibraltar, er i’r mwyafrif bleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, yn golyg mai “annibyniaeth yw’r unig ateb arall i’r Alban”.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi gwrthod rhoi sêl bendith i fargen Boris Johnson, a hynny o 92 o bleidleisiau i 30, gan ddweud y byddai’n “niweidio’n ddifrifol fuddiannau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol” y wlad.

Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth yr Alban, bydd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) 6.1% yn is erbyn 2030 na phe na bai Brexit wedi digwydd.

Ond mae’r Ceidwadwyr yn cyhuddo’r SNP o ragrith ar ôl iddyn nhw wrthod cefnogi’r fargen ar ôl gwrthwynebu ymadawiad heb gytundeb, ac maen nhw hefyd yn eu cyhuddo o ledaenu propaganda am y fargen.

Yn ôl Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, mae e wedi gofyn am ymddiheuriad am y fideo ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn dweud ei bod hi’n “fargen wael i’r Alban”.

Protest

Daeth protestwyr ynghyd y tu allan i Holyrood ddoe (dydd Iau, Ionawr 31) i brotestio yn erbyn Brexit a diwedd y cyfnod pontio.

Roedd oddeutu dwsin o bobol yno yn cadw pellter.

Dywedodd llefarydd ar ran y criw eu bod nhw’n “drist iawn” ac yn “grac iawn” gan eu bod nhw’n cael eu “llusgo allan” yn erbyn eu hewyllys.