Mae cynlluniau ar waith i sicrhau cyn lleied o oedi â phosib ym mhorthladd Caergybi ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben.

Mae Prydain wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol ers 11 o’r gloch neithiwr (nos Iau, Rhagfyr 31), a hynny ar ôl i’r cyfnod pontio ddod i ben.

Mae disgwyl i ddiwrnodau cynta’r mis fod yn dawel, ond fe allai brysuro dipyn yr wythnos nesaf.

O heddiw, bydd gofyn bod cwmnïau fferi sy’n cynnig teithiau i Iwerddon yn cysylltu gwybodaeth am dollau i’w harchebion.

Heb eu bod nhw wedi gwneud hynny, fydd dim modd i bobol gael mynediad i’r porthladd er mwyn teithio.

Yn ôl sefyllfa waethaf bosib Llywodraeth Prydain, gallai rhwng 40-70% o gerbydau trwm sy’n cyrraedd porthladdoedd o heddiw (dydd Gwener, Ionawr 1) gael eu troi oddi yno gan nad oes ganddyn nhw’r dogfennau cywir, a’r disgwyl yw y bydd y sefyllfa honno’n cyrraedd ei hanerth ganol y mis.

Gwrthlif

Mae gwrthlif dros dro mewn grym ar yr A55 i gyfeiriad y dwyrain ger cyffordd 2-4.

Bydd yr holl gerbydau sy’n cael eu troi allan o’r porthladd yn cael eu cyfeirio ar hyd y gwrthlif at gyffordd 4 ac yn ymuno â’r ffordd sy’n mynd â cherbydau i gyfeiriad y gorllewin.

Byddan nhw naill ai’n cael eu cyfeirio i Barc Cybi neu’n gorfod aros ar ymyl yr A55 os nad oes safle arall ar gael tra eu bod nhw’n rhoi trefn ar eu gwaith papur.

Y fferi gyntaf yn croesi

Fe wnaeth y fferi gyntaf ers Brexit groesi o Gaergybi i Ddulyn am 5.55 fore heddiw (dydd Gwener, Ionawr 1).

Roedd oddeutu dwsin o gerbydau ar fwrdd y fferi.

Doedd dim oedi wrth iddyn nhw ddilyn mesurau yn y porthladd ar ôl i’r rheolau newydd ddod i rym, ac roedd llongau eraill a gyrhaeddodd y porthladd neithiwr yn teithio’n unol â’r hen reolau.

Mae’r awdurdodau yn Iwerddon yn rhybuddio am “annhrefn” am rai wythnosau i ddod, nid yn unig i gerbydau sy’n teithio ond hefyd i’r diwydiannau sy’n dibynnu ar y nwyddau maen nhw’n eu cludo dros y môr.

Maen nhw’n dweud mai rhwng 5-7yb a 5-7yh yw’r adegau prysuraf i longau a bod oedi yn ystod yr oriau hynny’n “anochel”.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn cydweithio â’i phartneriaid yn y gogledd, bydd y cynlluniau’n cael eu hadolygu’n barhaus.

“Fel y porthladd gyrru i mewn ac allan prysuraf ond un yn y DU, a chysylltiad hanfodol ag Iwerddon, roedd yn hollbwysig ein bod yn rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith yng Nghaergybi er mwyn sicrhau y byddai diwedd cyfnod Pontio’r UE yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y porthladd,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

“Byddwn yn monitro’r sefyllfa yn ofalus a chyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny, byddwn yn cael gwared ar y system wrthlif dros dro.

“Er bod disgwyl i’r ychydig ddiwrnodau nesaf fod yn dawel, gwyddom y bydd pethau’n prysuro wrth i ni nesáu at ganol mis Ionawr.

“Ein nod yw gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r porthladd, tref Caergybi a’r gymuned ehangach rhag unrhyw darfu posibl.

“Byddem hefyd yn annog cludwyr i sicrhau bod ganddynt y ddogfennaeth gywir er mwyn osgoi cael eu troi i ffwrdd o’r porthladd.”

Ymateb Cyngor Sir Ynys Môn

“Rydym yn gefnogol o’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru er mwyn diogelu safle Caergybi fel un o’r prif byrth rhyngwladol a tharfu cyn lleied â phosibl ar y dref a’i thrigolion,” meddai Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.

“Ein blaenoriaeth o hyd, fel Cyngor Sir, yw sicrhau bod y llif traffig yn symud yn ddiogel ac yn effeithlon drwy Borthladd Caergybi, gan ddiogelu ein cymunedau lleol ar yr un pryd.”