Mae un gair wedi cael ei newid yn anthem genedlaethol Awstralia er mwyn dathlu cyfraniad pobol frodorol i fywyd y wlad.

Yn ôl Scott Morrison, mae newid y llinell o “For we are young and free” i “For we are one and free” yn ‘Advance Australia Fair’ yn adlewyrchu “undod” y genedl.

Daw’r newid i rym ar unwaith.

“Mae’n bry sicrhau bod yr undod mawr hwn yn cael ei adlewyrchu’n fwy llawn yn ein hanthem genedlaethol,” meddai’r prif weinidog.

“Tra bod Awstralia fel cenedl fodern yn eithaf ifanc, mae hanes ein gwlad yn hen, felly hefyd straeon pobloedd y Cenhedloedd Cyntaf yr ydyn ni, yn briodol iawn, yn dathlu eu harweiniad.

“Yn ysbryd undod, mae hi’n briodol iawn fod ein hanthem genedlaethol yn adlewyrchu’r gwirionedd hwn a’r gwerthfawrogiad rydyn ni’n ei rannu.”

Ymateb pobol frodorol

Yn ôl Ken Wyatt, Gweinidog Awstraliaid Brodorol y llywodraeth, mae e wedi rhoi ei sêl bendith i’r newid.

Mae’n dweud bod newid un gair yn “fach o ran natur ond yn arwyddocaol o ran pwrpas”.

Daw’r newid lai na deufis ar ôl i bobol frodorol fynegi barn nad oedd yr anthem fel ag yr oedd hi’n eu hadlewyrchu nhw na’u hanes yn ddigonol.

Serch hynny, mae’r Athro Megan Davis o Brifysgol New South Wales yn dweud nad oedd digon o ymgynghoriad cyn newid y geiriau.

“Dyma ffordd siomedig o ddod â 2020 i ben a dechrau 2021,” meddai.

“Popeth amdanom, hebddom.”

Cafodd yr anthem ei chanu mewn iaith frodorol am y tro cyntaf cyn gêm rygbi fis diwethaf wrth i Awstralia herio’r Ariannin.

Cafodd Advance Australia Fair ei chyfansoddi gan Peter Dodds McCormick a’i pherfformio am y tro cyntaf yn 1878, a chafodd ei mabwysiadu fel anthem genedlaethol yn 1984.