Daeth cyfnod pontio Brexit i ben am 11 o’r gloch neithiwr (nos Iau, Rhagfyr 31).

Daeth aelodaeth Prydain o’r farchnad sengl a’r undeb dollau i ben am 11 o’r gloch, bedair blynedd a hanner ers y refferendwm ynghylch dyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Boris Johnson, prif weinidog Prydain, fe fu’r Undeb Ewropeaidd yn “gartref diogel” i Brydain ers y 1970au, ond mae’n mynnu bod y wlad “wedi newid” yn llwyr ers hynny.

Fel rhan o’r cytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd modd i Brydain barhau i fasnachu heb dariffau â’r farchnad sengl, er y bydd rhaid i fusnesau ac unigolion ddilyn rheolau newydd.

Ac fe fu’n rhaid i Brydain ddod i gytundeb â sawl gwlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau parhad y trefniadau masnachu o heddiw (dydd Gwener, Ionawr 1).

‘Cytundeb newydd gwych’

Mewn erthygl yn y Daily Telegraph, dywed Boris Johnson fod y “cytundeb newydd gwych” yn anrhydeddu “addewidion mwyaf sylfaenol” refferendwm 2016.

Ac mae’n dweud bod Prydain “wedi adennill rheolaeth dros ein harian, ein cyfreithiau a’n dyfroedd”, a bod y cytundeb yn “darparu sicrwydd i fusnesau a diwydiant y Deyrnas Unedig”.

Fel rhan o’r cytundeb, fydd dim hawl symud yn rhydd ac er y bydd modd i drigolion gwledydd Prydain deithio ar gyfer gwaith a hamdden, bydd y rheolau hynny’n wahanol.

Bydd rhaid fod pasbort yn dilys ers mwy na chwe mis, gall fod angen fisa neu drwydded waith i aros am fwy na’r cyfnod hwnnw, bydd angen trwyddedau iechyd ar anifeiliaid anwes a bydd angen dogfennau ychwanegol ar yrwyr.

Daw’r hawl awtomatig i fyw a gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd i ben a fydd y Deyrnas Unedig ddim bellach yn rhan o raglen Erasmus i fyfyrwyr gael astudio dramor.

Bydd rhaid i yrwyr lorïau sicrhau bod ganddyn nhw drwydded arbennig cyn cael mynediad i Gaint ar eu ffordd i borthladd Dover.

Fydd teithiau i Iwerddon ddim yn newid, ond daeth protocol Gogledd Iwerddon i rym am 11 o’r gloch, sy’n golygu y caiff y wlad aros yn rhan o’r farchnad sengl am nwyddau, a bydd rheolau cyllid Ewropeaidd mewn grym yn ei phorthladdoedd.

Bydd trigolion Gibraltar hefyd yn cael teithio’n rhydd i Sbaen ac yn ôl heb gyfyngiadau.

Ymateb

Yn ôl Llywodraeth Prydain, maen nhw’n barod i “ddechrau o’r newydd” ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth Big Ben nodi’r ymadawiad am 11 o’r gloch, ond mae lle i gredu bod Boris Johnson wedi dathlu’r achlysur gyda’i deulu yn Downing Street yn sgil y coronafeirws.

Mae aelodau seneddol o blaid Brexit wedi bod yn nodi eu balchder o gael gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Syr Bill Cash, mae’r ymadawiad yn “fuddugoliaeth i ddemocratiaeth a sofraniaeth”, gan gymharu’r achlysur â diwedd cyfnod y teulu Stuart wrth y llyw.

Yn ôl Syr John Redwood, cyn-Ysgrifennydd Cymru, mae’n teimlo “rhyddhad” fod Prydain wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at “ryddid a chyfleoedd o’r newydd sydd ar agor i Brydain fyd-eang”.

Yn ôl Peter Bone, a fu’n dathlu drwy yfed siampên o Ffrainc, mae’r rhai sydd o blaid Brexit wedi mynd o gael eu hystyried yn “rhyfedd” i sefyllfa lle maen nhw wedi sicrhau “cefnogaeth pobol i drechu’r sefydliad”.

Yn ôl Nigel Farage, un o brif arweinwyr Brexit ers 2016, mae’r achlysur yn “eiliad i ddathlu 2021 fel Deyrnas Unedig annibynnol”.

‘Gadewch y golau ymlaen’

Serch hynny, nid pawb sy’n hapus fod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn dweud y byddai’r wlad yn dychwelyd i’r Undeb Ewropeaidd pe bai’n mynd yn annibynnol.

“Bydd yr Alban yn ei hôl yn fuan, Ewrop, gadewch y golau ymlaen,” meddai.