Er bod 2020 wedi bod yn un o’r blynyddoedd anoddaf mewn cof, mae hefyd wedi profi ein cryfder, ein gwydnwch a’n penderfyniad, yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
“Mae ein bywydau ni i gyd wedi troi wyneb i waered, ac yn drist iawn, mae anwyliaid wedi cael eu colli i’r feirws creulon hwn,” meddai yn ei neges ar ddechrau blwyddyn newydd.
Ar yr un pryd, mae’n tynnu sylw hefyd yr “ymdrech enfawr ar y cyd rydym wedi’i weld yng Nghymru” dros y flwyddyn ddiwethaf:
“Mae teuluoedd a chymdogion wedi cefnogi ei gilydd, ac mae gweithwyr rheng flaen – o weithwyr siopau i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n gofalwyr – wedi ein gwneud yn falch iawn o’u hymrwymiad i gadw pawb mor ddiogel â phosibl,” meddai.
“Mewn blwyddyn dywyll, cafwyd adegau disglair o obaith – a dim yn fwy disglair na dyfodiad y brechlyn yn ystod wythnosau olaf y flwyddyn.
“Yn ystod wythnosau cyntaf y Flwyddyn Newydd, bydd y bobl gyntaf i dderbyn y brechlyn yn cwblhau eu cwrs dau ddos. A bydd mwy o glinigau’n agor gan fod yr ail frechlyn bellach wedi’i gymeradwyo, gan gyflymu’r broses.”
Mae’n apelio ar i’r ysbryd o gydweithio barhau gan rybuddio y bydd angen innni fod yn barod am ragor o heriau yn 2021:
“Bydd gan y feirws ragor o bethau annisgwyl inni, ond gyda’n gilydd byddwn yn cadw Cymru’n ddiogel,” meddai.